Heddlu yn apelio am enwau pobl yn gysylltiedig ag anhrefn Abertawe
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am enwau pobl fel rhan o'u hymchwiliad i'r anhrefn yn ardal Mayhill, Abertawe, a ddigwyddodd yn gynharach yn mis Mai.
Dechreuodd y trais ar Ffordd Waun-Wen ar ôl gwylnos i ddyn lleol oedd wedi marw ar nos Iau 20 Mai.
Y gred yw bod hyd at 200 o unigolion wedi cymryd rhan yn yr anhrefn ar un cyfnod o'r noson.
Mae 31 o arestiadau wedi cael eu gwneud hyd yma.
Wrth gyhoeddi'r datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod yn credu y gallai'r bobl yn y lluniau mae'r llu wedi ei gyhoeddi fod o gymorth i'w hymchwiliadau.
Dywedodd Dirprwy Uwch-arolygydd Gareth Morgan ar ran Heddlu De Cymru: "Rydym yn ymwybodol nad yw ansawdd y lluniau yn glir iawn.
"Ond rydw i'n gobeithio y bydd pobl yn adnabod rhai sydd yn ymddangos yn nelweddau'r oriel."
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.