Newyddion S4C

Cyfle i seren ifanc ag awtistiaeth ar ôl drama ysbyty go iawn

02/01/2025
Leon Fletcher, actor Harri Bach

Mae seren 12 oed sydd ag awtistiaeth wedi dweud ei fod wedi mwynhau y cyfle i ymddangos ar y teledu ochor yn ochor a’r actor Llŷr Evans fisoedd yn unig ar ôl drama ysbyty go iawn.

Mae Leon Fletcher, o Ddeiniolen, ger Caernarfon, yn chwarae rhan y prentis handiman Harri Bach yn sioe newydd S4C, Help Llaw, ochr yn ochr â Llŷr sy’n actio Harri, yr handiman.

Yn gynharach y llynedd treuliodd Leon naw wythnos yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle cafodd ddiagnosis o Glefyd Crohn, cyflwr coluddyn llidiol.

Ond roedd y profiad o ymuno â chast Help Llaw yn hwb go iawn iddo, meddai.

Meddai Leon: "Mi wnes i fwynhau gwneud y rhaglen. Roedd Llŷr yn ddigri iawn ac roedd bob amser yn ceisio gwneud i mi chwerthin tra roedden ni'n ffilmio."

Dywedodd Dan, tad Leon, ei fod ychydig yn bryderus cyn i'r ffilmio ddechrau ond diflannodd ei nerfau cyn gynted ag yr ymddangosodd Llŷr.

"Fe setlodd lawr yn gyflym iawn i fywyd o flaen y camerâu ac roedden ni'n gallu gadael iddo fod yn fo ei hun.

"Roedd wedi cael ei weld yn Ysgol Pendalar tra bod rhaglen arall yn cael ei gwneud a gofynnwyd i ni a fyddai'n gallu cymryd rhan yn Help Llaw.

"Fe wnaethon ni gytuno oherwydd bod athrawon a staff Ysgol Pendalar wedi gwneud gwyrthiau efo Leon ers iddo symud yno o Ysgol Deiniolen.

"Dyna oedd y cam gorau iddo a dydi o ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae ei hyder wedi cynyddu ac mae ei leferydd wedi gwella'n aruthrol."

Image
Harri, Harriet and Harri Bach o'r gyfres Help Llaw
Harri, Harri Bach a Non Haf o Landyrnog, ger Dinbych, sy'n chwarae rhan Harriet

‘Dotio’

Cafodd y rhaglen ei chreu gan y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog, sy'n dod yn wreiddiol o Wrecsam ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Cyfarfu Nia â Leon am y tro cyntaf, sydd hefyd ag anabledd corfforol, ac sy'n ddisgybl yn Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, ddwy flynedd yn ôl.

Meddai Nia: "Roeddwn wedi ei gyfarfod yn Ysgol Pendalar ac wedi dotio arno. Roeddwn i eisiau cael plentyn ag anghenion ychwanegol fel un o'r prif actorion yn y gyfres i ychwanegu at rym gwelededd anabledd.

"Er gwaethaf ei broblemau, mae Leon yn cyfathrebu'n dda ac yn dipyn o gymeriad. Mae'n ddireidus ac yn blentyn sydd wedi blodeuo ers iddo ddechrau mynychu Ysgol Pendalar ar ôl symud o'r ysgol brif ffrwd," meddai.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Gymru sydd ag anghenion dysgu ac anableddau ychwanegol ac mae’r gyfres hefyd yn cyflwyno iaith arwyddion Makaton.

Ymhlith y bobl ifanc eraill sydd â rôl amlwg y mae Nel Anwyl Roberts, pum mlwydd oed, sy’n byw gyda'i rhieni a’i phedwar brawd hŷn yn Llanuwchllyn ger Y Bala, Gwynedd.

Dywedodd Eirian, mam Nel: "Dydi Nel ddim wedi datblygu mor gyflym â'i brodyr ac mae ei lleferydd yn sylfaenol iawn i blentyn pump oed. 

“Rydym yn aros am ddiagnosis ar hyn o bryd ond rydym wedi gweithio'n galed i'w symud yn ei blaen gymaint â phosibl ac mae hi mewn dosbarth prif ffrwd yn Ysgol O M Edwards lle mae'n rhannu cynorthwyydd dosbarth gyda phlentyn arall.

"Mae ei brodyr yn dangos llawer iawn o amynedd a chwarae gemau efo hi, ac yn siarad â hi fel pe na bai dim o'i le ac yn cynnwys Nel ym mhopeth a'i chael i wneud pethau o gwmpas y tŷ.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hi'n ymateb fel y gwnaeth hi i Llŷr yn y bennod o Help Llaw. Roedd o’n wych gyda hi ac ymatebodd mewn ffordd nad oeddwn i'n meddwl oedd yn bosibl.

"Mae Nel yn gallu bod yn eitha' styfnig ac yn benderfynol o wneud beth mae hi eisiau ei wneud ond gyda Llŷr fe wnaeth hi beth ofynnwyd iddi hi ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y bennod ar S4C."  

‘Braint’

Plentyn arall sy'n cymryd rhan yn y gyfres yw Youssef Ibrahim sy'n byw gyda'i rieni a anwyd yn Syria yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n mynd i'r uned arbennig yn Ysgol y Bedol yn Rhydaman.

Dywedodd Nia bod Youssef yn ddi-eiriau ac ar y sbectrwm awtistig

Dywedodd: "Pan wnaethon ni gastio a ffilmio Youssef a Llŷr yn y gyfres mi gawson ni gyfieithydd Arabeg ond mae Youssef yn ddi-eiriau ac mae'n anodd mesur ei ymateb.

"Ond yn y bennod mae'n ymddangos bod Llŷr yn sownd mewn pwll peli ac mae Youssef yn ceisio ei gynorthwyo allan a hyd yn oed yn lleisio ‘help’. 

“Ac ar y diwedd mae'n dweud 'hwyl fawr' yn glir. Mae'n foment arbennig iawn nad oedd neb wedi ei ddisgwyl.

"Mae'n ymddangos bod y math hwn o beth yn digwydd yn eithaf aml: mae'n dangos na ddylech fyth danbrisio unrhyw blentyn. Mae'n fraint gweld a chofnodi'r cyflawniadau hyn," meddai Nia.

Mae’r gyfres 26 rhan yn cael ei darlledu ar blatfform plant S4C, Cyw, am 7.45am ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.