Newyddion S4C

Gohirio digwyddiadau oherwydd rhybuddion am dywydd garw yng Nghymru dros y Calan

31/12/2024
Tywydd

Mae rhybudd melyn am law trwm a chyson wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Gymru rhwng 18:00 ddydd Mawrth 31 Rhagfyr a 18:00 ddydd Mercher 1 Ionawr.

Mae rhai digwyddiadau nos Galan a dydd Calan yng Nghymru wedi cael eu gohirio oherwydd y tywydd.

Ni fydd trochfa dydd Calan Porthdinllaen yn cael ei chynnal tan y Pasg.

Mewn datganiad dywedodd RNLI Porthdinllaen: “Yn anffodus rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ohirio Trochfa Dydd Calan RNLI Porthdinllaen  - hynny oherwydd y rhagolygon tywydd ar gyfer yfory, ac er mwyn diogelwch pawb oedd yn bwriadu cymryd rhan. 

“Bydd mwy o fanylion ar gyfer y dyddiad newydd, ac ad-daliadau ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru ar-lein, i ddilyn yn fuan.”

Yn ogystal, mae dathliad Nos Galan pier Bangor nos Fawrth hefyd wedi ei ganslo am resymau diogelwch.

Ni fydd arddangosfa tân gwyllt am hanner nos ym Miwmares hefyd “a hynny oherwydd does “dim arwydd bod rhagolygon y tywydd am wella".

Yn yr Alban, mae dathliadau'r Calan yn yr awyr agored wedi eu canslo yng Nghaeredin oherwydd pryderon am dywydd eithafol. 

Fydd yna ddim arddangosfa tân gwyllt yn y ddinas oherwydd pryderon am ddiogelwch, wedi i'r swydddfa dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am wynt a glaw ddydd Mawrth.

Yng Nghymru, mae disgwyl i 30-50mm o law ddisgyn nos Fawrth, ac mae’n bosib i 100mm ddisgyn mewn ardaloedd yn y gogledd.

Mae’n bosib y bydd rhai cartrefi’n colli pŵer, yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion 'byddwch yn barod' ar gyfer llifogydd.

Yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth mae'r rhybuddion, sydd mewn grym ar gyfer yr afonydd Alun, Clwyd, Hafren, Conwy a Dyfi.

Am yr holl wybodaeth cliciwch fan hyn.

Mae’r rhybudd tywydd melyn am law mewn grym yn y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Caerffili
  • Caerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Wrecsam

Mae rhybudd melyn arall am wyntoedd cryfion a fydd yn cael effaith ar Gymru gyfan rhwng 07:00 a 15:00 ddydd Mercher 1 Ionawr.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd cryfaf daro rhanbarthau arfordirol Cymru, lle mae hyrddiadau o 65-75mya yn bosibl.

Mae’n bosibl y bydd amseroedd teithio yn hirach neu wasanaethau yn cael eu canslo wrth i'r tywydd effeithio o bosibl ar amodau'r ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi. 

Mae’r rhybudd am wyntoedd cryfion yn weithredol ar gyfer phob sir yng Nghymru, heb law am Ynys Môn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.