Arestio dau yn dilyn ymosodiad difrifol mewn parc yng Nghaerdydd
Mae dau o bobl wedi’u harestio yn dilyn ymosodiad difrifol ym Mharc Biwt, Caerdydd yn gynnar fore dydd Mawrth.
Mae dynes 18 oed o Lanrhymni wedi cael ei harestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol a lladrata, ac mae dyn 25 oed o ardal Glan yr Afon o'r ddinas wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae'r ddau yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Mae dyn 54 oed o Drebiwt, Caerdydd yn parhau i fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mewn cyflwr sy'n peryglu ei fywyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea: “Rydym yn deall y bydd y digwyddiad hwn wedi achosi pryder i'r gymuned leol, ond hoffwn sicrhau pobl, er bod hwn yn ddigwyddiad difrifol a phryderus, ei fod yn cael ei drin fel digwyddiad ynysig.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da gyda’r ymchwiliad a hyd yn hyn wedi arestio dau berson a bydd ein hymchwiliadau’n parhau nes i ni ddod o hyd i bawb sy’n gyfrifol a dod â nhw o flaen eu gwell.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio cyfeirnod 2100254215.