Newyddion S4C

Cais i newid pum fflat yn llety gwyliau ar stryd fawr Llanberis

28/12/2024
Llanberis

Fe fydd cais cynllunio i addasu pum fflat preswyl ar stryd fawr Llanberis i lety gwyliau yn cael ei ystyried gan swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd.

Mae'r cyngor wedi derbyn y cais i newid defnydd adeilad Compton House ar y stryd fawr yn y pentref.

Mae'r cynlluniau'n gofyn am newid defnydd pum fflat preswyl yn bum uned gwyliau tymor byr.

Mae’r datblygwyr yn honni na fydd y cais yn arwain at “orddarpariaeth” o lety gwyliau yn ardal Llanberis.

Mae’r cais wedi’i wneud gan Peter Rowe, o PLP Estates Ltd o Frodsham.

Mae’r dogfennau cynllunio yn datgan y bydd gwedd allanol yr adeilad yn “aros heb ei newid.”

Mae hefyd yn datgan bod y cais ar gyfer newid defnydd ac addasiadau mewnol i adeilad presennol yn lleoliad y pentref ac “na fydd yn arwain at golli cynefinoedd nac isadeiledd gwyrdd”.

'Lleoliad cynaliadwy'

Mae’r adeilad, meddai’r cynlluniau, hefyd mewn lleoliad “cynaliadwy”, ac yn hygyrch i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’n nodi: “Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael ac mae gwaith yn cael ei wneud yn fewnol i ddiwygio hyn.

“Bydd cymeriad allanol yr adeilad yn parhau.”

Mae’r cais yn dadlau na fydd y datblygiad “yn effeithio ar fwynderau cymdogion” gan nodi “nad yw’r defnydd arfaethedig yn annhebyg yn ei natur i’w ddefnydd preswyl presennol”.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd Gyfarwyddyd Erthygl 4 gyda'r nod o reoli newid defnydd adeiladau yn llety gwyliau trwy reolau cynllunio.

Mae'n dileu'r hawliau datblygu a oedd yn caniatáu newid defnydd eiddo preswyl yn llety gwyliau heb dderbyn hawl cynllunio yn gyntaf.

Mae gwefan Cyngor Gwynedd yn nodi bod sefydlu rheolau cynllunio Erthygl 4 yn rhan o “ymdrechion i sicrhau darpariaeth fforddiadwy o dai i gwrdd ag anghenion cymunedau lleol”.

Yn ôl ymchwil diweddar gan y cyngor, mae cyfartaledd o 65.5% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r ganran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o dai haf.

Ond mae’r cynllun ar gyfer Llanberis yn dadlau, o ran meini prawf cynllunio sy’n ymwneud â “gormodedd o lety gwyliau hunanarlwyo parhaol,” fod Llanberis “o dan” y ffigwr arfaethedig o 15%.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.