Newyddion S4C

Llofruddiaeth Aberteifi: Teyrngedau i ddyn fu farw

21/07/2021
Heddlu Dyfed Powys

Mae teulu dyn fu farw mewn digwyddiad yng Ngheredigion yn oriau mân fore dydd Mercher wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd John Bell, 37 o Aberteifi, ei ddarganfod ar y ffordd i Bont Aberteifi yn y dref am oddeutu hanner nos.

Mae ei deulu wedi dweud y bydd hiraeth mawr ar ei ôl.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad: “Rydym ni'n torri'n calonnau ar golli John.
 
“Roedd yn fab, brawd, tad ac yncl cariadus ac ymroddgar a bydd pawb a oedd yn ei garu yn gweld ei eisiau'n fawr.
 
“Rydyn ni’n gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddio.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Jones: “Mae ein meddyliau’n mynd allan i deulu John ar yr adeg anodd hon.

“Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ein hymchwiliad yn Golwg Y Castell a'r ffordd rhwng y fan honno a Phont Aberteifi, lle gafodd Mr Bell ei ddarganfod.

“Rydym yn apelio am unrhyw dystion a allai fod wedi gweld neu glywed ffrae yn yr ardal honno gyda'r nos nos Fawrth, 20 Gorffennaf, yn enwedig rhan olaf y noson, ar ôl 10pm, cyn i'r heddlu fynychu tua hanner nos."

Mae'r heddlu nawr yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20210720-458.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.