Pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd yn bresennol yn ystod ymosodiad Israel yn Yemen - ond 'ymosodiadau i'w parhau'
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi rhybuddio y bydd ymosodiadau ei wlad ar Yemen yn parhau “nes bod y gwaith wedi'i gwblhau".
Daw wedi i fyddin Israel lansio cyfres o ymosodiadau ar brif ddinas Yemen, Sana’a yn ogystal â dinas orllewinol Hodeidah ddydd Iau.
Cafodd maes awyr Sana’a ei dargedu fel rhan o’r ymosodiadau ar wrthryfelwyr Houthi, sydd â chefnogaeth Iran – a hynny tra roedd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn bresennol.
Roedd Tedros Adhanom Ghebreyesus wedi treulio cyfnod yn Yemen er mwyn ceisio cytuno ar amodau i ryddhau aelodau staff y Cenhedloedd Unedig (UN) sydd yn cael eu cadw gan yr Houthis, meddai.
Dywedodd Mr Ghebreyesus bod aelod o griw'r maes awyr wedi cael ei anafu wedi’r ymosodiad ac roedd dau o bobl eraill wedi cael eu lladd.
Bu farw o leiaf chwech o bobl wedi ymosodiadau Israel yn Yemen ddydd Iau, yn ôl adroddiadau yr Houthis yn y cyfryngau lleol.
Dywedodd yr Houthis yn ddiweddarach ddydd Iau eu bod yn barod i wynebu’r ymosodiad gydag ymosodiadau pellach.
Mae Benjamin Netanyahu bellach wedi dweud y bydd ymosodiadau Israel yn parhau yn Yemen nes iddo lwyddo i drechu’r Houthis.
Mewn datganiad, dywedodd bod Israel yn “benderfynol” o fynd i’r afael â “therfysgwyr” sydd â chysylltiadau i Iran.
Mae grŵp Islamaidd yr Houthis wedi bod yn ymosod ar longau sy'n teithio drwy'r Môr Coch ers dros flwyddyn.
Maen nhw’n targedu llongau ar hyd llain gul o fôr rhwng Yemen a dwyrain Affrica, sy’n llwybr masnach ryngwladol allweddol, mewn ymgais i ddod ag ymosodiadau Israel yn erbyn Hamas yn Gaza i ben.
Lluniau: Wochit