Arweinwyr gwleidyddol yn adlewyrchu ar 2024
Mae arweinwyr gwleidyddol wedi bod yn adlewyrchu ar y flwyddyn a fu ac yn cofio "am yr hyn sydd yn bwysig" adeg y Nadolig.
Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan yn dweud ei bod hi wedi "sefydlogi'r llong" ar ôl blwyddyn gythryblus i'r blaid Lafur yng Nghymru.
Mae tri arweinydd wedi bod yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ond yn ôl Eluned Morgan mae'r blaid mewn sefyllfa gref wrth edrych i'r dyfodol.
"Fy ngobaith pan wnes i gymryd y swydd oedd fy mod yn gallu sefydlogi popeth erbyn Nadolig, fod gen i gyfeiriad clir a dyna lle dwi'n credu ydyn ni wedi cyrraedd nawr," meddai.
Dywedodd yn ystod y flwyddyn nesaf ei bod eisiau mynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r wlad gan gynnwys yr amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd.
Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen i wylio pennod olaf Gavin and Stacey ar ddiwrnod Nadolig. Dyma fydd pennod olaf y gyfres ddrama boblogaidd.
"Fe fydd yna lot o ganu o gwmpas y bwrdd Nadolig ac yn amlwg eleni rydyn ni yn edrych ymlaen yn fawr at bennod olaf Gavin and Stacey," meddai.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, ei fod yn edrych ymlaen at 2025.
"Nadolig Llawen i chi a'ch anwyliaid i gyd, a phob lwc ar gyfer 2025," meddai mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Rwy’n edrych ymlaen at gael teithio'r flwyddyn nesaf, ynghyd â’m tîm newydd yn y Cabinet Cysgodol i gysylltu â chi, bobl Cymru, ac i wrando ar eich barn wrth inni ddatblygu ein cynlluniau i drwsio’r genedl."
Yn ei neges Nadolig, mae Prif Weinidog y DU yn dweud ei fod yn edrych "tuag at ddyfodol gwell a mwy disglair i bob un person".
Dywedodd Syr Keir Starmer hefyd bod y cyfnod hwn yn amser i gofio pwysigrwydd teuluoedd a chymuned.
"Mae'n amser i atgoffa ein hunain yr hyn sydd go iawn yn bwysig. Teulu. Cyfeillgarwch.Brawdoliaeth rhwng holl bobl. Bod yn gefn i'ch gilydd- yn ystod y dathliadau ond hefyd y cyfnodau mwy anodd," meddai Keir Starmer.
Mae hefyd yn dweud ei fod yn "gobeithio am heddwch" ar draws y byd ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol lle mae rhyfeloedd.
Fe ddiolchodd i'r rhai sydd yn gorfod gweithio dros yr ŵyl a dywedodd bod y cyfnod yn gallu bod yn anodd i rai.
"Dwi'n gwybod nad yw'r cyfnod hwn yn hawdd i bawb a mae fy meddyliau gyda'r rhai ohonoch chi sydd yn unig y Nadolig hwn."