Chwilio am yrrwr car wedi i gerddwr farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar bobl i’w helpu i ddod o hyd i yrrwr yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gâr nos Lun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Llanpumsaint rhwng cerbyd a dyn rhwng 18.45 a 19.45. Fe wnaeth gyrrwr y car adael heb stopio.
Mae dyn bellach wedi marw yn sgil ei anafiadau.
Y gred yw bod y dyn wedi mynd â’i gi am dro adeg y gwrthdrawiad.
Mae’r llu bellach wedi dweud eu bod yn chwilio am yrrwr y cerbyd a'u bod â "diddordeb penodol" i siarad â dyn oedd yn gyrru "cerbyd lliw glas sydd bellach â difrod amlwg iddo."
Roedd y car yn teithio tua’r gogledd trwy Lanpumsaint pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, meddai'r llu.
Mae’r ffordd wedi cau ac mae disgwyl iddi barhau ar gau am gyfnod wrth i ymholiadau gael eu cynnal.
Mae gorymdaith Sion Corn oedd i fod i ddigwydd yn y pentref yn ystod y dydd wedi ei chanslo.
Dywedodd pwyllgor parc Llanpumsaint ar gyfryngau cymdeithasol: "Oherwydd y digwyddiad torcalonnus dros nos yn y pentref, rydym wedi penderfynu canslo Gorymdaith Siôn Corn heddiw.
"Hoffem fel pwyllgor estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach ar yr adeg anodd hon".
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth dashcam all fod o gymorth i gysylltu ar unwaith.
Mae swyddogion arbenigol bellach yn rhoi cymorth i deulu’r dyn sydd wedi marw.