Dadorchuddio cerflun i Gymraes o Landudno yn adeilad y Capitol UDA
Mae cerflun wedi ei ddadorchuddio yn adeilad Capitol yr Unol Daleithiau i gofio Cymraes o Landudno.
Martha Hughes Cannon oedd y seneddwraig talaith gyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau, gan wasanaethau yn senedd talaith Utah o 1897 nes 1901.
Chwaraeodd ran flaenllaw hefyd yn y frwydr dros bleidlais i fenywod. Roedd hi hefyd yn feddyg ac yn ymgyrchydd iechyd amlwg.
Cafodd ei geni yn Nhanygraig, Llandudno yn 1857 cyn gadael gyda’i rhieni i'r Unol Daleithiau yn 1860 ar ôl iddyn nhw ymuno ag Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.
Ar ôl datgelu'r cerflun yr wythnos diwethaf cafodd plac ei dadorchuddio iddi ar neuadd tref Llandudno hefyd ddydd Mercher, sy’n dweud: “Genedigaeth-fraint pob gŵr a gwraig yw rhyddid a chyfartaledd.”
Dywedodd Wil Aaron a drefnodd y plac ei fod yn “bwysig iawn ei bod hi’n cael ei hadnabod yn yr Unol Daleithiau fel sy’n digwydd erbyn hyn”.
“Mae’n bwysicach byth ein bod ni’n ei chydnabod hi - mae’n un ohonom ni, mae’n Gymraes, ac mae’n ddynes y dylen ni fod yn wirioneddol falch ohoni,” meddai.
Dywedodd Celia Blomeley o Soroptimyddion Llandudno a’r Cyffiniau: “Y gobaith yw y bydd y plac hwn yn Llandudno yn helpu i ysbrydoli menywod a merched heddiw i weld os gallai hi wneud hynny yn y 1800au y dylent allu ei wneud hefyd.”
Yn adeilad y Capitol mae dau gerflun yn cynrychioli ffigwr blaenllaw o bob talaith, gan olygu bod cyfanswm o 100 o gerfluniau.
Yn 2018, pleidleisiodd Deddfwrfa Utah i ddisodli cerflun o’r arloeswr teledu Philo T. Farnsworth a gosod cerflun o Martha Hughes Cannon yn ei le.