Bluey newydd dda? Prinder copiau yn gorfodi cyhoeddi ail lyfr 'fisoedd yn gynt na'r disgwyl'
Mae ail lyfr Cymraeg yng nghyfres Bluey wedi ei gyhoeddi fisoedd yn gynharach na’r bwriad ar ôl i’r dosbarthwr redeg allan o gopïau o’r cyntaf, meddai’r cyhoeddwr.
Cafodd y llyfr cyntaf yn y gyfres, Nos Da Ystlum Ffrwythau, wedi ei addasu gan y darlithydd Hanna Hopwood, ei chyhoeddi ym mis Tachwedd.
Y bwriad yn wreiddiol oedd cyhoeddi’r ail yn y gyfres ryw ben yn 2025.
Ond dywedodd y cyhoeddwr eu bod nhw wedi gorfod argraffu a gyrru’r ail i siopau Cymraeg yn barod ar ôl i ganolfan dosbarthu'r Cyngor Llyfrau werthu allan o gopïau o’r llyfr cyntaf.
Dywedodd Lynda Tunnicliffe, perchennog Gwasg Rily, nad oedden nhw wedi gweld dim byd tebyg o’r blaen a’i bod hi’n ceisio darganfod ai dyna’r llyfr Gymraeg i werthu gyflymaf erioed.
“Mae'r ymateb i Blŵi yn Gymraeg wedi bod yn gwbl anhygoel,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Roedd Nos Da Ystlum Ffrwythau wedi hedfan oddi ar y silffoedd.
“Mae hi'n wirioneddol seren fyd-eang, nawr gyda chyffyrddiad lleol ym mamiaith plant bach Cymru, diolch i addasiad hyfryd Hanna Hopwood.
“Rydyn ni mor gyffrous i ddod â’r teitl nesaf, Cyngor Call Mam Blŵi - a hynny dipyn yn gynt na’r disgwyl.”
Ni fydd yr ail lyfr yn y gyfres yn cyrraedd Amazon nes 26 Ionawr ond mae eisoes wedi ei ddosbarthu i siopau llyfrau yng Nghymru, meddai.
“Mae’n hyfryd bod siopau llyfrau Cymraeg lleol yn cael ecsgliwsif ar y llyfr newydd - mae’n gyfle gwych i deuluoedd eu cefnogi,” meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1861727612332110126
'Un o ieithoedd y byd'
Dywedodd Hanna Hopwood fis diwethaf ei bod hi'n gobeithio y byddai ei llyfr yn denu mwy o blant i’r Gymraeg.
“Dwi’n gobeithio bydd yr addasiad Gymraeg yma yn caniatáu i blant sydd eisiau darllen y fath yma o bethe’ drwy’r Gymraeg yn cael ‘neud hynny ac yn gallu gweld Cymraeg fel un o ieithoedd eraill y byd," meddai.
“A bod ddim wastad rhaid troi i’r Saesneg, neu fod ni’n gallu troi i’r Saesneg ochr yn ochr fel adlewyrchiad o’r Gymru ‘da ni’n byw ynddi.”
Mae cysylltiad Cymreig arall gan gyfres Bluey hefyd.
Un o animeiddwyr y gyfres yw Owain Emanuel o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd bellach yn byw ac yn gweithio'n Brisbane.