Newyddion S4C

Rhybudd mai dydd Gwener fydd diwrnod prysuraf y flwyddyn ar y ffyrdd

20/12/2024
Traffig ar y ffyrdd

Mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio i “gynllunio o flaen llaw” gyda disgwyl mai dydd Gwener fydd diwrnod prysuraf y flwyddyn ar y ffyrdd. 

Dywedodd cymdeithas foduro yr AA eu bod yn disgwyl i 23.7 miliwn o deithiau gael eu cwblhau yn ystod y dydd. 

Dyma yw’r diwrnod teithio prysuraf ar gofnod ar gyfer adeg y Nadolig ers iddyn nhw ddechrau cadw cofnodion yn 2010, medden nhw. 

Mae’r AA wedi rhybuddio pobl i ddisgwyl tagfeydd ar y ffyrdd, gan gynnwys ar yr M4 ger Caerdydd a Chasnewydd. 

Mae disgwyl i gyfnewidfa'r M4/M5 ger Bryste, yr M25 ger maes awyr Heathrow yn Llundain, cyfnewidfa'r M5/M6 ger Birmingham a’r M8 rhwng Caeredin a Glasgow fod yn hynod o brysur hefyd. 

Mae nifer o deithwyr sydd methu â theithio ar gwch oherwydd bod porthladd Caergybi wedi cau wedi gorfod gwneud trefniadau arall yn ogystal. 

Gwyliau tramor

Mae disgwyl i tua phedair miliwn o bobl yn y DU dreulio’r Nadolig dramor eleni. 

Mae sefydliad Abta wedi dweud mai ddydd Sul fydd y diwrnod prysuraf ar gyfer hediadau rhwng dydd Gwener a 2 Ionawr. 

Dywedodd maes awyr Heathrow eu bod yn disgwyl mai eleni fydd y mis Rhagfyr prysuraf ar gofnod iddyn nhw.

Maen nhw’n disgwyl i dros 6.7 miliwn o bobl deithio eleni, gan guro’r nifer a deithiodd fis Rhagfyr diwethaf. 

Mae EasyJest wedi dweud eu bod yn disgwyl hyd at 4.1 miliwn o bobl deithio gyda nhw ledled Ewrop dros gyfnod y Nadolig. 

Dywedodd prif weithredwr Abta, Mark Tanzer: “Rydym yn annog pobl i gynllunio o flaen llaw. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â’r ffyrdd yn hynod o brysur felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd y maes awyr heb unrhyw broblemau.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.