Pobol y Cwm: ‘Rili pwysig' i Gymry Cymraeg weld straeon am drais yn y cartref
Pobol y Cwm: ‘Rili pwysig' i Gymry Cymraeg weld straeon am drais yn y cartref
Wrth i’r ‘Dolig agosáu, mae rhai o sêr Pobol y Cwm yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am y nifer o bobl sydd yn dioddef trais yn y cartref adeg yma o’r flwyddyn.
Mae’r actores Rebecca Trehearn wedi bod yn cydweithio’n agos gydag elusen Cymorth i Ferched Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n dweud bod trais yn y cartref yn cynyddu dros y Nadolig.
Mae ei chymeriad, Cheryl, yn dioddef camdriniaeth gan ei chariad unwaith yn rhagor yn ei bywyd wedi iddi eisoes ddianc i ffwrdd ohono yn y gorffennol.
Bydd ei pherthynas â Tom, oedd yn cael ei adnabod fel Dave gynt, yn cyrraedd uchafbwynt mewn pennod arbennig am 21.00 ar ddydd Nadolig.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Ms Trehearn ei fod yn “bwysig” adrodd stori o’r fath yma drwy’r Gymraeg.
“Dwi yn meddwl bod o’n rili pwysig i Gymry Cymraeg cael gweld y stori yma a’r digwyddiadau yma’n digwydd o fewn cymuned sy’n debyg i’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddo fo drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd," meddai.
“Achos wrth gwrs, mae’n digwydd ym mhob man i gymaint o bobl a dylse rhaglen fel Pobol y Cwm sy’n cyrraedd degau o filoedd o gynulleidfa, dylse fo adlewyrchu profiadau bywyd pawb.”
'Codi ymwybyddiaeth'
Gobaith Ms Trehearn a’i chyd-actor Rhys ap Trefor, sydd yn actio cymeriad Tom, yw tynnu sylw at y math o ymddygiad all fod yn gysylltiedig â thrais yn y cartref.
“Mae’n hawdd peidio gweld y pethau yma gweithiau os nad oes gennych chi teulu a ffrindiau o’ch cwmpas sy’n sylwi ar beth sy’n digwydd.
“A dyna ‘di sgil dynion fel Dave yw bod nhw’n expert yn cadw bob dim dan dun ac yn rheoli ac yn cuddio bob dim,” meddai Ms Trehearn.
Mae Tom/Dave yn gymeriad sydd yn “rheoli” ac yn “coercive,” esboniodd Rhys ap Trefor.
“I’r byd tu allan mae popeth i’w weld yn iawn. A’r gobaith ydy os ti’n gweld rhywbeth fel hyn ar y sgrin, ti’n gallu gweld bod o ddim yn iawn.
“A falle bod e’n ysgogi rhywun i ‘neud rhywbeth amdano fo,” meddai.
Dywedodd prif weithredwr Cymorth i Ferched Cymru ei bod yn “ddiolchgar” i’r opera sebon am ymrwymo i gyfleu gwirionedd trais yn y cartref ar y sgrin fach.
Fe allai gwylio’r bennod Nadolig fod yn heriol i rai, medd Sara Kirkpatrick, ond mae’n dweud ei bod yn “bwysig ac yn gyfle i ddechrau’r sgyrsiau hynny all greu newid.”
Bydd modd gwylio pennod Nadolig Pobol y Cwm am 21.00 nos Fercher ar S4C.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei effeithio gan drais yn y cartref, cysylltwch am gymorth fan hyn.