Rhaglen deledu arbennig i 'ddathlu cyfraniad a thalent' Leah Owen
Bydd rhai o sêr mwyaf Cymru yn rhoi teyrnged i'r gantores, yr arweinydd a'r hyfforddwraig canu Leah Owen mewn rhaglen deledu arbennig.
Bu farw Leah Owen yn 70 oed ar 4 Ionawr eleni yn dilyn cyfnod o salwch.
Cafodd ei magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn, ac roedd yn byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych ers blynyddoedd.
Bydd rhaglen deledu arbennig er cof am Leah yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Ionawr union flwyddyn ers ei marwolaeth.
Dau o'i chyn-ddisgyblion fydd yn arwain y cyfan, sef Mared Williams a Steffan Hughes.
Bydd gŵr Leah, Eifion, a'u merch, Angharad, a nifer o ffrindiau a chyn-ddisgyblion eraill yn rhannu atgofion ohoni.
Dywedodd Steffan Hughes: "Byddwn yn cofio ac yn dathlu cyfraniad a thalent person oedd yn agos iawn at ein calonnau. Roedd hi'n fraint cael rhoi teyrnged iddi a dathlu ei bywyd."
Ychwanegodd Mared Williams: "Mae pawb yn adnabod llais cwbl unigryw Leah Owen ond roedd hi hefyd yn arweinydd, tiwtor a chyfansoddwr ac yn fentor i gymaint ohonom.
"Bydd atgofion a digon o ganu yn y rhaglen ac ymunodd llawer o ffrindiau a theulu Leah gyda ni yn y gynulleidfa."
Dywedodd Steffan a Mared eu bod ychydig yn nerfus am y rhaglen arbennig am eu bod yn gwybod y byddai teulu Leah yn y gynulleidfa.
"Roedd yn gyfle i fod gyda'n gilydd ac i hel atgofion ond roedden ni hefyd eisiau iddo ddathlu cyfraniad Leah i gerddoriaeth," meddai Mared.
"Ni fyddai Leah wedi dymuno iddo fod yn achlysur trist, byddai hi wedi bod eisiau i'r rhaglen ddangos ein doniau," ychwanegodd Steffan.
Daeth Leah i amlygrwydd ar ôl iddi ennill pedair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman ym 1970.
Cyhoeddodd nifer o recordiau yn ystod ei gyrfa lwyddiannus, gan ddechrau yng nghanol y 70au.
Roedd yn enw cyfarwydd yn y byd cerdd dant, gan osod gosodiadau di-ri i gannoedd o blant a phobl ifanc i gystadlu mewn Eisteddfodau lleol yn ogystal â'r Brifwyl.
Enillodd Fedal Syr T.H. Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.
Bydd rhaglen Noson Lawen - Cofio Leah Owen yn cael ei darlledu ar S4C am 19:30 nos Sadwrn, 4 Ionawr.
Prif lun: Iolo Penri