Newyddion S4C

Ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau i aros ar gau tan y flwyddyn newydd

Cyflwr y fordd fore dydd Sadwrn diwethaf (Llun: Martin Jones)

Bydd ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau yn aros ar gau tan y flwyddyn newydd, yn ôl Traffig Cymru.

Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai’r A487 Rhiw Gwgan rhwng Minffordd a Chorris yn ailagor ddydd Iau.

Ond dywedodd Traffig Cymru ddydd Mercher y bydd y ffordd “ar gau am y tro”.

O ganlyniad bydd rhaid i yrwyr rhwng Dolgellau a Machynlleth yrru’r 20 milltir dros Fwlch yr Oerddrws drwy bentref Mallwyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru'r wythnos diwethaf fod y ffordd ar gau am “resymau diogelwch” oherwydd bod “cyflwr y tir ansefydlog uwchben y ffordd”.

Roedd lluniau o’r lleoliad yn awgrymu bod tirlithriad wedi digwydd yn dilyn Storm Darragh.

“Er mwyn sicrhau diogelwch ar yr A487 ger Corris, bydd gwaith yn dechrau heddiw i osod draeaniad dros dro er mwyn ail-agor y ffordd o dan reolaeth goleuadau traffig yn y flwyddyn newydd,” meddai Traffic Cymru ddydd Mercher.

“Rydym yn gwerthfawrogi bod hyn am achosi aflonyddwch yn yr ardal ac rydym yn ddiolchgar i'r rhai sy'n teithio am fod yn amyneddgar.

“Mae'n hanfodol bod y gwaith yn cael i gyflawni er mwyn sicrhau bod y ffordd yn ddiogel i ddefnyddwyr y ffordd.”

Llun: Cyflwr y fordd fore dydd Sadwrn 7 Rhagfyr (Llun gan Martin Jones).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.