Porthladd Caergybi: Teithwyr yn gwneud trefniadau 'costus' i gyrraedd adref erbyn Nadolig
Mae teithwyr sydd methu â theithio ar gwch oherwydd bod porthladd Caergybi wedi cau wedi gorfod gwneud trefniadau "costus" er mwyn cyrraedd adref erbyn y Nadolig.
Cafodd porthladd Caergybi ei gau ar ôl iddo gael ei ddifrodi yn Storm Darragh. Fe fydd ar gau tan o leiaf 15 Ionawr.
Mae hynny yn golygu fod teithiau ar gwch rhwng Dulyn a Chaergybi dros y Nadolig wedi canslo, gan effeithio ar nifer oedd yn cynllunio i deithio dros yr ŵyl.
Un o'r rheiny yw Pete Reid o Co Monaghan, oedd fod i deithio ar gwch o Gaergybi gyda'i wraig Emma.
Fe fydd angen i'r dyn 40 oed o Lundain deithio i Abergwaun yn Sir Benfro er mwyn dal cwch nawr.
“Roedd rhaid i mi ganslo fy ngwesty yng Nghaergybi. Roedd yn rhaid i mi drefnu gwesty yn ne Cymru i gyrraedd y porthladd yn Abergwaun,” meddai Mr Reid wrth asiantaeth newyddion PA.
“Dwi'n mynd i yrru lawr nos Wener, aros dros nos yng Nghymru, ac yna croesi drosodd y diwrnod wedyn.
“Dwi newydd gael gwybod y byddai yn cael fy rhoi ar gwch, dwi ddim yn gwybod pa amser na pha ddiwrnod. Dydyn nhw ddim wedi dweud dim byd wrtha i.”
'Costus, ond werth pob ceiniog'
Mae lluniau o'r porthladd yn dangos difrod i un o freichiau safle angori llongau fferi.
Mewn datganiad, dywedodd Stena Line, sy’n berchen ar y porthladd, eu bod wedi “gweithio’n galed i ddarparu trefniadau teithio amgen i gwsmeriaid yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl”.
Roedd Kim Ward a Shannon Foley wedi bwriadu teithio ar gwch Stena Line o Gaergybi i Ddulyn ar 21 Rhagfyr gyda'u ci. Maen nhw wedi beirniadu'r cwmni am ddiffyg cyfathrebu clir.
"Fel arfer mae'n daith 12 awr, felly rwy'n cael y trên o Lundain ac yn teithio fel teithiwr ar droed ar y cwch,” meddai Ms Ward.
“Roeddwn i wedi ffonio Stena Line sawl gwaith dros y dyddiau diwethaf i weld a oedd unrhyw ffordd y gallwn gael fferi gynharach ar un o’r llwybrau eraill o naill ai Abergwaun neu Lerpwl.
“Doedden nhw ddim yn gadael i mi achos doedd dim cadarnhad ddydd Sadwrn os oedd y cychod yn teithio.
“Dwi a fy mhartner yn nyrsys ac roedden ni’n ffodus i gael y Nadolig hwn i ffwrdd,” meddai.
“Dwi i wedi gweithio cyfnod y Nadolig sawl gwaith. Felly pan fyddwch chi'n cael y cyfle i gael Nadolig i ffwrdd, dydych chi ddim yn gwybod faint o flynyddoedd fydd yna cyn i chi gael un arall. Mae'n rhaid i chi ei dreulio gyda'ch teulu.
“Mae’n gostus iawn ond bydd yn werth pob ceiniog."
Mae Stena Line yn dweud eu bod wedi ychwanegu teithiau ychwanegol ar y llwybr rhwng Belfast a Cairnryan a bod argaeledd cyfyngedig ar lwybrau Belfast-Lerpwl a Rosslare-Abergwaun.