Newyddion S4C

Chwe chriw tân yn ymateb i dân mewn archfarchnad yn Sir Conwy

17/12/2024
Asda Llandudno Junction

Cafodd chwe chriw tân eu galw i fynd i'r afael â thân mewn archfarchnad yng Nghonwy dros nos.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ei alw i'r digwyddiad yn Asda, Cyffordd Llandudno am 01.09 fore dydd Mawrth.

Roedd criwiau o Landudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, Abergele, Conwy a Dinbych wedi eu galw i ymateb i'r tân.

Fe gafodd y tân ei ddiffodd am 04.48, ac mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod achos y tân.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.