Newyddion S4C

Gyrrwr beic modur 21 oed yn marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

Yr Heddlu

Mae gyrrwr beic modur 21 oed wedi marw mewn gwrthdrawd rhwng y Trallwng a Chegidfa ym Mhowys. 

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn ifanc wedi marw yn y fan a'r lle, wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A490 am 13.45 brynhawn Sul. 

Yn ôl yr heddlu, mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.  

Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad, cyn ail agor am 21.25 nos Sul. 

Mae'r  heddlu yn dal i ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at y gwrthdrawiad. 

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un welodd feic Honda melyn rhwng y Trallwng a Chegidfa yn gynnar brynhawn Sul i gysylltu â nhw, gan ddefnyddio'r cyfeirnod: 149 Rhagfyr 15.    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.