Cyngor yn gofyn i breswylwyr dalu £200 i yrru dros balmant i'w cartrefi

Mae teuluoedd ar stryd yn y Barri wedi cwyno eu bod yn gorfod talu £215 i'r cyngor lleol am yr "hawl" i yrru dros balmant eu stryd i'w cartrefi.
Yn ôl The Sun, cafodd y preswylwyr lythyr gan Gyngor Bro Morgannwg yn nodi eu bod yn croesi'r palmant yn anghyfreithlon, gan nad oedd terfyn y palmant yn gwyro'n esmwyth i lawr i'r ffordd fawr.
O ganlyniad fe fydd yn rhaid i bobl sydd yn byw ar Heol Pantycelyn yn y dref dalu am wneud cais am ganiatád i'r palmant gael ei addasu, ar gost o £215.
Darllenwch y stori'n llawn yma.