Storm Darragh: Difrod ‘sylweddol’ i safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod Storm Darragh wedi cael “effaith sylweddol” ar eu safleoedd a’u bod nhw’n parhau i asesu'r “difrod”.
Mae gwerth cilomedrau o ffyrdd coedwigoedd, llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd wedi’u rhwystro gan goed a changhennau - a bydd yn cymryd cryn amser i glirio popeth, meddai CNC.
Maen nhw’n cynghori pobl i beidio â theithio i goedwigoedd a gwarchodfeydd CNC nes bod y gwaith clirio wedi’i gwblhau.
Mae canolfannau ymwelwyr yn ailagor yn raddol yn dilyn y storm a dylid gwirio beth sydd ar agor ar eu gwefan.
Maen nhw wedi cyhoeddi lluniau sy’n dangos bod nifer sylweddol o goed wedi syrthio yng nghoedwigoedd Mynydd Du ger Crughywel a Caio ger Llanymddyfri.
Dywedodd Gavin Bowen, Pennaeth Gweithrediadau'r Canolbarth CNC y bydd yn “cymryd peth amser” i glirio'r ffyrdd a’r llwybrau sydd wedi eu plicio gan goed.
"Aeth llawer iawn o waith i baratoi ar gyfer Storm Darragh, ac ymateb iddo - ac mae'r tywydd gwell yr wythnos hon wedi ein galluogi i ddechrau gwaith adfer,” meddai.
"Rydym yn asesu'r difrod ar ein safleoedd. Y flaenoriaeth i'n rheolwyr tir a'n contractwyr yw clirio ffyrdd a llwybrau sydd wedi'u blocio. Ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
“Mae'n debygol y bydd yr hyn a brofwyd yn effeithio ar weithrediadau mewn coedwig a gwaith cynaeafu arfaethedig am yr ychydig flynyddoedd nesaf."
Ychwanegodd: "Wrth i ni ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn i gael eich llwybrau yn ôl i'r arfer, cynghorir y rhai sy'n eu defnyddio ar gyfer hamdden i beidio â theithio i'n safleoedd ar hyn o bryd.
"Rydym yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am statws safleoedd a llwybrau penodol ar ein gwefan, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
“Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ar arwyddion neu gan staff lleol, gan gynnwys am ddargyfeiriadau neu lwybrau sydd ar gau - a byddwch yn wyliadwrus o beryglon o ran coed neu ganghennau’n cwympo."