Achub taith Siôn Corn o Gorwen i Lapland ar ôl difrod Storm Darragh
Mae teithiau rheilffordd Siôn Corn yn Llangollen a Chorwen wedi eu hachub gan wirfoddolwyr yn sgil difrod Storm Darragh.
Fe wnaeth y Storm achosi difrod i groto Siôn Corn yn 'Lapland' yng Ngharrog tra bod nifer o goed wedi disgyn ar y traciau oherwydd y storm.
Bu rhaid i Reilffordd Llangollen ohirio eu teithiau Siôn Corn ar 7 a 8 Rhagfyr ond mae gwaith diflino gan wirfoddolwyr yn golygu bod y gwasanaeth yn gallu ailgychwyn penwythnos yma.
Dywedodd Robin Crowley, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen nad oedd y storm wedi gallu rhwystro hwyl yr ŵyl.
“Dyw Storm Darragh ddim wedi dwyn y Nadolig," meddai.
"Rydw i wedi fy syfrdanu gan yr ymroddiad, yr egni a'r ysbryd a ddangoswyd. Roedd ein Groto yng Ngharrog yn olygfa ofnadwy ddydd Sul, gyda'n pabell fawr wedi'i dinistrio gan y gwynt a'r addurniadau wedi'u gwasgaru ym mhobman.
"Fyddech chi ddim yn ei adnabod nawr. Da ni ddim yn gallu aros i’n gwesteion weld beth ydan ni wedi ei gyflawni’r penwythnos hwn.”
Mae'r rheilffordd hefyd yn cynnig ad-daliad i'r rhaid a brynodd docynnau i'r gwasanaethau a gafodd eu gohirio oherwydd y storm.
Ychwanegodd Rheilffordd Llangollen y byddai'r rhai oedd gydag archebion a gafodd eu canslo yn cael eu blaenoriaethu i archebu lle ar y ddau drên ychwanegol, a bydd eu swyddfa naill ai'n anfon e-bost neu'n cysylltu trwy ffonio.
Bydd dau wasanaeth ychwanegol yn Llangollen am 17:15 ar 14 a 20 Rhagfyr.