Newyddion S4C

Dementia: 'Prif achos marwolaethau yn y DU yn 2023' medd ymchwil

10/12/2024
Dementia

Dementia oedd prif achos marwolaethau yn y DU yn 2023 yn ôl ymchwil newydd. 

Mae Ymchwil Alzheimer's y DU wedi rhybuddio mai "dim ond gwaethygu fydd yr argyfwng" gan fod y boblogaeth yn heneiddio oni bai fod Llywodraeth San Steffan yn gweithredu.

Mae ymchwil gan yr elusen yn awgrymu fod 75,393 wedi marw o'r cyflwr yn 2023. 

Y gred yw fod o gwmpas 944,000 o bobl yn y DU yn byw gyda dementia. 

Mae'r elusen yn rhybuddio y gall y ffigwr gynyddu i 1.4 miliwn erbyn 2040. 

Roedd gan Gymru gyfradd farwolaeth o 10.6% gyda'r cyflwr, o'i gymharu â 11.7% yng Ngogledd Iwerddon, 11.6% yn Lloegr a 10.2% yn Yr Alban. 

Dywedodd prif weithredwr yr elusen Hilary Evans-Newton: "Erbyn 2040, mae disgwyl y bydd dros 1.4 miliwn o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, gyda goblygiadau torcalonnus ar gyfer cymaint o deuluoedd ac fe fydd hefyd yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi.

"Ni all maint y niwed sy'n cael ei achosi gan dementia ar bobl a'r gymuned ehangach gael ei anwybyddu gan y llywodraeth."

Yn ôl Ymchwil Alzheimer's y DU, dementia ydy prif achos marwolaethau ymysg menywod ers 2011.

Bu farw mwy na 48,000 o fenywod yn sgil y cyflwr y llynedd o gymharu â 27,000 o ddynion. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gofal Stephen Kinnock, sy'n Aelod Seneddol Aberafan Maesteg: "Byddwn yn rhoi Prydain ar flaen y gad o ran trawsnewid triniaeth ar gyfer dementia, gan gefnogi ymchwil i'r cyflwr a sicrhau fod triniaethau clinigol newydd a rhai sy'n gost-effeithiol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddiogel ac amserol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.