Efrog Newydd: Rhyddhau delweddau newydd wrth i’r chwilio am saethwr barhau
Mae’r heddlu yn Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau wedi rhyddhau dwy ddelwedd newydd o ddyn sy’n cael ei amau o ladd prif weithredwr cwmni yswiriant iechyd yn y ddinas.
Cafodd pennaeth UnitedHealthcare, Brian Thompson, 50 oed, ei saethu yn ei gefn wrth iddo wneud ei ffordd i gynhadledd ddydd Mercher.
Mae’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad wedi’i dargedu.
Dywedodd maer y ddinas Eric Adams fod y “rhwyd yn tynhau” o amgylch y saethwr, sydd hyd yma wedi osgoi’r heddlu er gwaethaf chwilio helaeth a defnyddio technoleg adnabod wynebau.
Mae'r FBI wedi cynnig gwobr o $50,000 (£39,000) am wybodaeth fydd yn arwain at ei arestio.
Mewn un llun, gellir gweld y dyn sydd dan amheuaeth yng nghefn tacsi yn gwisgo crys chwys â hwdi a gorchudd wyneb.
Yn yr ail, mae’n cael ei weld y tu allan i'r car, eto'n gwisgo mwgwd wyneb.
Daeth yr apêl newydd wrth i gyfryngau’r Unol Daleithiau adrodd bod yr heddlu wedi dod o hyd i sach gefn y credir ei fod yn perthyn i’r dyn. Roedd yn cynnwys siaced Tommy Hilfiger ac arian papur o’r gêm fwrdd Monopoly.
Lluniau: Heddlu Efrog Newydd
