Darlledu sioeau theatr ar y teledu yn gallu denu 'cynulleidfa newydd'

Parti Priodas

Fe fydd darlledu mwy o sioeau theatr ar y teledu fel rhan o bartneriaeth newydd yn fodd o ddenu “cynulleidfa newydd” i’r byd perfformio, yn ôl un actores.

Mae Mared Llywelyn yn chwarae rôl un o brif gymeriadau cynhyrchiad Parti Priodas, sef Lowri. 

Mae’n dweud bod darlledu sioeau o’r fath ar y teledu yn “ffordd hygyrch i gyflwyno theatr i gynulleidfa newydd.” 

Daw ei sylwadau wrth i bartneriaeth rhwng Theatr Cymru a S4C ddechrau dwyn ffrwyth yn dilyn cytundeb y llynedd. 

Fel rhan o’r bartneriaeth, fe fydd Parti Priodas yn cael ei darlledu ar S4C am 21.00 nos Sul, ac fe fydd ar gael i’w ffrydio ar y cyd â chynhyrchiad Rhinoseros ar blatfformau Clic, YouTube ac iPlayer. 

Dywedodd Mared Llywelyn: “O berfformio mewn cae yn Steddfod Boduan i daith ar hyd a lled Cymru, mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r criw sydd wedi creu'r sioe yma. 

“Felly, os fethoch chi'r briodas y tro cyntaf, gobeithio wnewch chi fwynhau'r parti yn fwy na ddaru Idris a Lowri!

Gobeithio bydd mwy o gydweithio rhwng S4C a'r byd theatr yn y dyfodol,” ychwanegodd.

Image
Parti Priodas
Mark Henry Davies a Mared Llywelyn yn chwarae rolau Lowri ac Idris yng nghynhyrchiad Parti Priodas

'Dathlu talent Cymru'

Wedi’i ysgrifennu gan Gruffudd Owen, mae Parti Priodas yn dilyn hynt a helynt cymeriad Ms Llywelyn, Lowri, sydd yn forwyn priodas i’w brawd ac sy’n poeni am ddyfodol eu fferm deuluol – ac Idris, sydd wedi’i chwarae gan Mark Henry Davies, sydd yn dychwelyd i Ben Llŷn ar gyfer priodas ei ffrind gyda chyfrinachau all ddifetha’r diwrnod.  

Enillodd Parti Priodas wobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ac fe’i gyflwynwyd i Theatr Cymru (gynt yn Theatr Genedlaethol Cymru) mewn seremoni yn Llundain y llynedd. 

Hon oedd y tro cyntaf yn hanes y gwobrau i gwmni theatr Cymraeg ennill.  

Image
Rhinoceros
Sioe Rhinoseros

Bydd y ddrama Rhinoseros i’w gweld ar y platfformau digidol yn unig. 

Drama absẃrd o waith Eugene Ionesco wedi’i chyfieithu gan Manon Steffan Ros yw hwn, sydd yn serennu Rhodri Meilir fel yr arwr annhebygol. 

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru y bydd y bartneriaeth rhwng S4C a Theatr Cymru yn helpu “ehangu mynediad i’n cynyrchiadau a dathlu talent Cymru.”

Mewn datganiad dywedodd S4C eu bod yn “gyffrous i weld y bartneriaeth hon gyda Theatr Cymru yn datblygu.” 

Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C: “Rwy’n siŵr y bydd y gwylwyr yn cael blas ar y cynnwys, ac y bydd hynny yn codi’r awch arnynt i ddychwelyd i’r theatrau i wylio cynyrchiadau Cymraeg byw ar lwyfan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.