Cymeradwyo cynnwys pentref Trefor yn enw cyngor cymuned yng Ngwynedd

05/12/2024
Trefor

Mae cais i ail-enwi cyngor cymuned yng Ngwynedd wedi cael ei gymeradwyo brynhawn ddydd Iau.

Ers 2021, mae trigolion yn Nhrefor wedi gofyn am “degwch i’r pentref” wrth gael ei gydnabod yn enw'r cyngor lleol.

Fe bleidleisiodd aelodau Cyngor Gwynedd yn unfrydol o 53 pleidlais i ddim yn erbyn i gymeradwyo newid enw ‘Cyngor Llanaelhaearn’ i ‘Gyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn’.

Gydag eglwys y pentref yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif, Llanaelhaearn sydd wedi bod yr enw ar y plwyf i’r llywodraeth leol ers y 16eg canrif, sydd yn cynrychioli ardal wasgaredig.

Yn ystod y 19eg ganrif bu twf mawr yn y boblogaeth oherwydd dyfodiaid y diwydiant ithfaen, ac o ganlyniad, fe grëwyd pentref newydd Trefor yn 1856, yng ngwaelod y plwyf.

Erbyn hyn, Trefor yw pentref mwyaf poblog y gymuned gyda 511 o etholwyr, tra bod 287 yn Llanaelhaearn. Mae 12 aelod ar y cyngor, gydag wyth o’r cynghorwyr yn cynrychioli Trefor.

Ym mis Medi 2021, fe anfonwyd llythyr i’r cyngor gan drigolion y pentref yn gofyn iddo gael ei gydnabod yn enw’r awdurdod. Roedd y cyngor yn cydnabod bod y cais yn un “gwbl resymol” ac yn ei gefnogi’n unfrydol.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio i hel barn trigolion lleol. Un ymateb ysgrifenedig yn unig a gafwyd i’r ymgynghoriad, ac roedd yn gefnogol o’r cais.

Roedd sawl sylw ar lafar ac ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gefnogol, gyda neb yn gwrthwynebu.

Er gwaethaf ymateb “siomedig” i’r ymgynghoriad, fe gyflwynodd y cyngor gais i newid ei henw i ‘Gyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn’.

Fe drafodwyd y cais yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd ddydd Iau, gyda’r aelod lleol, y Cynghorydd Jina Gwyrfai yn gefnogol o’r cais. Roedd swyddogion yr awdurdod wedi argymell i’r newid gael ei gymeradwyo.

Llun: Trefor gan Ian Turk dan drwydded Comin Creadigol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.