Pwy yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar?
Pwy yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar?
Mae Darren Millar wedi ei enwi yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig a hynny heb orfod wynebu gornest.
Caeodd enwebiadau ar gyfer y swydd, yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies, am 17.00 brynhawn dydd Iau a Darren Millar oedd yr unig ymgeisydd.
Yn gynharach yr wythnos yma, ymddiswyddodd Andrew RT Davies fel arweinydd, er iddo ennill pleidlais o hyder ymhlith yr aelodau o drwch blewyn - 9 pleidlais i 7. Roedd yn dilyn misoedd o anghytuno mewnol am sawl agwedd o'i arweiniad.
Mae dewis Darren Millar yn arweinydd yn golygu y bydd arweinyddion pob un o’r tair prif blaid yn y Senedd - Llafur Cymru, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr - wedi eu hethol heb unrhyw ornest.
Mae Mr Millar, sy'n 48 oed, ac yn byw ym Mae Cinmel, wedi cynrychioli Gorllewin Clwyd yn y Senedd ers 2007 pan lwyddodd i ddiorseddu aelod o gabinet y Blaid Lafur, Alun Pugh.
Roedd yn brif chwip ac yn llefarydd y blaid ar faterion cyfansoddiadol a’r gogledd dan arweinyddiaeth Andrew RT Davies ac mae hefyd wedi bod yn llefarydd y blaid ar addysg ac iechyd.
Ym mis Rhagfyr 2020 ymddiswyddodd o gabinet y Ceidwadwyr gan ymddiheuro ar ôl iddo ef a tri AS arall rannu diod yn y Senedd adeg clo mawr Covid-19.
Fe wnaeth ddychwelyd i gabinet ei blaid ym mis Mai y flwyddyn ganlynol yn dilyn etholiadau’r Senedd.
Roedd Mr Millar wedi sefyll ym mis Gorffennaf yn yr Etholiad Cyffredinol yn sedd Gogledd Clwyd, gan ddod yn ail i’r ymgeisydd Llafur.
Daliadau
Y gred yw bod Darren Millar yn fwy pendant o blaid datganoli, ar ôl i'r arweinydd blaenorol Andrew RT Davies ddenu beirniadaeth am wahodd y cyhoedd i ystyried cael gwared o'r sefydliad.
Mae Darren Millar wedi siarad yn y Senedd am y ffaith ei fod yn meddu ar ddinasyddiaeth yng Ngweriniaeth Iwerddon ac wedi dweud ei fod yn “falch” o’i dreftadaeth Wyddelig.
Mae Mr Millar hefyd yn ei ddisgrifio ei hun fel “Cristion brwd” ac mae ei ymwneud gyda rhai sefydliadau crefyddol wedi dod dan y chwyddwydr.
Yn ôl ei gofrestr buddiannau cyfredol mae’n ymddiriedolwr ar Sefydliad Evan Roberts.
Yn 2019 ac yna eto eleni cododd cwestiynau am gysylltiadau ariannol y sefydliad â gweinidog yn Singapore, Yang Tuck Yoong, sydd wedi ei feirniadu am agweddau homoffobig.
Mae Darren Millar wedi pwysleisio nad yw’n cytuno â’r agweddau rheini.
Mae’n ymwneud â dros 15 o gyrff eraill gan gynnwys Llys Prifysgol Bangor, Llys Prifysgol Glyndŵr, yn Aelod Gydol Oes Anrhydeddus Sŵ Mynydd Cymru a nifer o gyrff sy’n gwarchod gwiwerod coch Cymru.