Andrew RT Davies am ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae Andrew RT Davies wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig unwaith y bydd olynydd yn ei le.
Mae un ymgeisydd, Darren Millar, yr aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Orllewin Clwyd wedi datgan i fwriad i'w olynu. Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi datgan i gefnogaeth i Darren Millar.
Daw datganiad Andrew RT Davies ychydig oriau wedi iddo ennill pleidlais ar ei arweinyddiaeth o naw pleidlais i saith - gan gynnwys ei bleidlais ei hun.
Digwyddodd y bleidlais yng nghyfarfod wythnosol bore Mawrth o’r grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd.
Mewn llythyr at gadeirydd y Blaid Geidwadol dywedodd: “Ysgrifennaf atoch i roi gwybod am fy ymddiswyddiad fel Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, unwaith y bydd olynydd yn cael ei ethol.
“Er bod y 24 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i’r Blaid Geidwadol ar draws y Deyrnas Unedig, roeddwn yn edrych ymlaen at arwain ymgyrch ein plaid yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
“Mae llwyddiannau diweddar ar lefel llywodraeth leol, lle cafodd mwyafrifoedd Llafur mawr eu gwrthdroi, yn dangos yr hyn mae modd ei gyflawni.
“Yr wythnos diwethaf, daeth grŵp o aelodau’r Senedd ataf, gan fygwth ymddiswyddo o’u swyddi yn y cabinet cysgodol os nad oeddwn yn cytuno i gamu i lawr fel arweinydd.
“Gofynnais felly am bleidlais o hyder yn fy arweinyddiaeth i’w gynnal mewn cyfarfod y bore ‘ma. Mae'r bleidlais hon bellach wedi digwydd.
“Roedd yn amlwg o’r canlyniad nad yw lleiafrif sylweddol o’r grŵp yn cefnogi ein ffordd o weithredu er mai dyma’r unig strategaeth ddichonadwy sydd ar gael.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i’r aelodau hynny o’r Senedd a gefnogodd fi a’n holl staff gweithgar.
“Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i’n haelodau plaid ymroddedig a’n cefnogwyr llawr gwlad, sef asgwrn cefn ein plaid.
“Tra bod fy nghyfnod fel arweinydd wedi dod i ben, edrychaf ymlaen at barhau yn fy rôl fel aelod o’r Senedd a sefyll yn Etholiad y Senedd yn 2026.
"Wrth symud ymlaen, mae’n amlwg bod yn rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig benderfynu beth yn union y mae’n sefyll drosto.
“Mae hwn yn benderfyniad lle mae'n rhaid i bawb gael dweud ei ddweud.”
Inline Tweet: https://twitter.com/DarrenMillarMS/status/1863981499315310649
Sylwadau
Mae Mr Davies wedi bod yn y swydd ers 2021 - ei ail gyfnod fel arweinydd y blaid yn y Senedd wedi iddo hefyd fod yn arweinydd rhwng 2011 a 2018. Cafodd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2007.
Mae rhai o'i sylwadau yn y flwyddyn ddiwethaf wedi cael eu beirniadu gan rai o'i gyd-aelodau yn y blaid.
Ym mis Gorffennaf, honnodd fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn "cael eu gorfodi" i fwyta cig Halal - honiad gafodd ei wrthod gan yr ysgol. Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan Gyngor Mwslemaidd Cymru, a gyhuddodd Mr Davies o hiliaeth.
Yn ogystal mynegodd nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg bryder am ei eiriau, gan gynnwys ei gyd-aelod Mwslemaidd, Natasha Asghar.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rhoddodd wahoddiad i ymwelwyr â Sioe Sirol Bro Morgannwg "bleidleisio" mewn blwch a ddylid diddymu'r Senedd neu beidio.
Derbyniodd gerydd swyddogol ym mis Hydref ar ôl i Bwyllgor Safonau’r Senedd ddweud ei fod wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy alw terfyn cyflymder 20mya Cymru yn bolisi “blanket”.
Mae'r tri arolwg barn ddiweddaraf ar etholiadau’r Senedd wedi awgrymu fod y Ceidwadwyr yn y 4ydd safle, neu’n gydradd gyda Reform yn 3ydd.