Darganfod corff yn ystod ymchwiliad i ddiflaniad dyn o Lanelli
19/07/2021
Andrew Davies o Lanelli
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod corff wedi cael ei ddarganfod fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad dyn o Lanelli.
Mae Andrew Davies, 57 oed, wedi bod ar goll ers 4 Gorffennaf.
Cafwyd hyd i gorff ar nos Wener, 16 Gorffennaf, ond nid yw wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod teulu Mr Davies yn ymwybodol o'r datblygiadau.