Cam ymlaen i efeilliaid o Grymych sy'n gobeithio serennu yn y byd bocsio
Cam ymlaen i efeilliaid o Grymych sy'n gobeithio serennu yn y byd bocsio
Ar ôl dangos eu doniau ar y lefel amatur, mae’r efeilliaid Ioan a Garan Croft o Grymych yn Sir Benfro yn barod i gamu i lefel broffesiynol y byd bocsio.
Fe fydd Ioan a Garan, sy'n 22 oed, yn teithio i Waterford, Gweriniaeth Iwerddon, i gael eu cyfle cyntaf o focsio ar y lefel nesa’ ar 7 Rhagfyr.
Fis Chwefror eleni, fe gefnodd y ddau ar system focsio Prydain – a hynny bum mis cyn Gemau Olympaidd Paris. Roedden nhw’n anhapus â newidiadau i ddosbarthiadau pwysau - rheolau fyddai’n golygu mai dim ond un o’r efeilliaid fyddai wedi cael mynd i Ffrainc.
Er iddi fod yn flwyddyn anodd i’r ddau ŵr ifanc, mae Garan yn teimlo eu bod nhw’n barod i ddangos eu sgiliau ar y lefel uchaf.
Dywedodd Garan: “Un o’r rhesymau nethon ni adael oedd achos ein bod ni’n cystadlu am yr un lle yn y Gemau Olympaidd. Pan rydych chi wedi neud e am flynyddoedd mae’n anodd. Ond nawr, ni’n gallu edrych ymlaen i traino, edrych ymlaen i gystadlu a ddim yn gorfod cystadlu yn erbyn fy mrawd. Mae jyst yn haws, yn fwy hapus fel hyn.”
Mi fydd bws llawn o Grymych yn mynd draw i Weriniaeth Iwerddon dros y penwythnos i gefnogi’r dynion ifanc sy’n bwriadu sefydlu eu hunain yn y byd proffesiynol.
Gobaith Ioan yw gallu dathlu gyda’r rheini sydd wedi eu cefnogi ar hyd y daith.
Dywedodd: “Bydd hi’n foment sbesial iawn ar y noson a wedyn gobeithio gallwn ni ddathlu gyda ffrindiau a phobl sydd wedi dod i gefnogi o’r ardal.”
Gyda llu o brofiadau, mi fydd cael cyn-bencampwr pwysau ysgafn y byd yn eu cornel yn siŵr o fod o fudd iddynt. Campfa FOX ABC Manceinion sydd wedi bod yn gartref i Ioan a Garan dros y misoedd diwethaf, a hynny o dan oruwchwyliaeth Anthony Crolla.
Dywedodd Anthony Crolla: “Maen nhw’n llawer mwy talentog nag oeddwn i erioed, yn y gêm hon mae angen ychydig o lwc arnoch i gyrraedd y brig dim ots pa mor dda ydych chi.
"Ond os yw'r rhain yn cael y lwc i fynd gyda nid yn unig y sgiliau ond pa mor galed maen nhw yn gweithio. Mae’n beth prin cael y ddau, ac mae gan y rhain gyfle gwych i fynd yr holl ffordd.”
Cyfle i gyrraedd yr uchelfannau i’r Cymry yma, felly, gyda’r ddau yn barod i ddangos eu bod yn gartrefol ar y llwyfan mawr.
Ychwanegodd Garan: “Does dim byd wedi bod yn hawdd y flwyddyn yma, ma’ fe wedi cymryd amser i droi yn broffesiynol. Ond na, ni’n mwy na’ barod nawr.”
Fe fydd y gornestau ar 7 Rhagfyr gyda’r brodyr Croft yn barod i chwifio’r faner dros Grymych a Chymru.