Rhybudd i beidio addurno ceir ar gyfer y Nadolig
Mae Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio gyrwyr i beidio ag addurno eu ceir gydag addurniadau Nadolig.
Daw'r rhybudd ar ôl iddyn nhw gael gair â pherchennog car yn Wrecsam, gan orchymyn iddo dynnu'r goleuadau Nadolig a thinsel a oedd yn gorchuddio ei gerbyd.
Mae'r heddlu'n pwysleisio fod addurno ceir yn anghyfreithlon, ac nad yw'n ddiogel i wneud hynny, gan ei fod yn tynnu sylw eraill sy'n defnyddio'r ffordd.
"Gall achosi anaf i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, ac yn waeth fyth, roedd y goleuadau hyn wedi eu gludo â selotep!
"Cyngor di flewyn ar dafod i'r gyrrwr y tro hyn.
"Mwynhewch yr ŵyl, ond gadewch eich addurniadau ar y goeden Nadolig." meddai neges Heddlu'r Gogledd.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru