Castell Gwrych: O I’m a Celeb i Louis Vuitton

Mae Castell Gwrych wedi croesawu enw arall cyfarwydd i’r safle hanesyddol yn Sir Conwy.
Ymhlith y diweddaraf mae’r tŷ dillad Ffrengig, Louis Vuitton, sydd wedi teithio i’r castell ar gyfer eu hymgyrch ddillad dynion tymor Hydref-Gaeaf 2021.
Y gred yw bod y gwaith cynhyrchu wedi digwydd ym mis Mai, gyda North Wales Live yn adrodd ar y pryd fod y safle wedi’u gau ar gyfer ymwelwyr.
Model gwyddbwyll enfawr yw canolbwynt yr ymgyrch, gyda’r modelau wedi eu lleoli ar wahanol safleoedd ar y bwrdd.
Wedi’u ddylunio gan Virgil Abloh, a’i saethu gan y ffotograffydd Tim Walker, mae’r canlyniad gorffenedig yn debycach i rywle mewn byd ffantasi na chefn gwlad Cymru.
Mae’n bosib mai dyma yw’r gyfrinach i lwyddiant y castell dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r un effaith yn cael ei wireddu ar gynhyrchiad ITV o I’m a Celebrity, Get Me Out of Here.
Am y tro cyntaf erioed yn ei hanes, ni fu hi’n bosib ffilmio’r gyfres yn Awstralia, ac felly Castell Gwrych ddaeth yn gartref newydd i’r rhaglen realiti.
Mae penaethiaid y rhaglen wedi dweud mai yn Awstralia y hoffem ffilmio’r gyfres y 2021, ond fod Castell Gwrych yn parhau yn opsiwn petai cyfyngiadau Covid-19 yn atal hynny.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Louis Vuitton