Newyddion S4C

Y Gymraes gyntaf i ennill Bake Off yn rhannu ei phrofiad o fyw ag ADHD

27/11/2024
Georgie Grasso

Mae'r Gymraes gyntaf i ennill rhaglen deledu The Great British Bake Off wedi dweud ei bod wedi goresgyn oes o gael pethau'n anodd wrth ddod yn fuddugol yn y bymthegfed gyfres.

Dywedodd Georgie Grasso, 34 o Gydweli, Sir Gaerfyrddin, sy'n gweithio fel nyrs pediatrig, wrth ei dilynwyr Instagram ei bod wedi "cael trafferth i ffitio i mewn" fel menyw sy'n byw efo ADHD.

"Fel menyw ag ADHD sydd wedi cael trafferth ar hyd fy oes i ffitio i mewn, i orffen unrhyw beth rydw i erioed wedi'i ddechrau, allai ddim credu fy mod wedi goresgyn oes o gael pethau'n anodd," meddai yn dilyn y rownd derfynol nos Fawrth. 

"Nid wyf fyth yn mynd i osod ffiniau neu derfynau arnaf fy hun byth eto. Mae wedi bod yn daith o hunan-dderbyn a darganfod!

"I'r rhai ohonoch sy'n niwroddargyfeiriol, sydd â hunan-amheuaeth, sy'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl rwyf am ddweud hyn... dyw'r adegau hyn o gael pethau'n anodd ddim am byth, mae eich gwahaniaethau yn eich gwneud chi'n bwerus ac yn gryf. 

"Gallwch chi wneud unrhyw beth o gwbl rydych chi am ei wneud... Rydw i'n brawf o hynny. 

"Credwch ynoch chi'ch hun, carwch pwy ydych chi waeth beth."

Ychwanegodd Ms Grasso ei bod wedi gweithio'n galed iawn yn y gystadleuaeth goginio.

"Gwthiais fy hun i'r eithaf yn y gystadleuaeth hon, a thalodd y gwaith caled a'r ymarfer ar ei ganfed," meddai.  

Ychwanegodd ei bod wedi aros yn driw i'w hun a'i bod "mor falch" o ennill. 

Georgie Grasso yw'r person cyntaf o Gymru erioed i ennill y gystadleuaeth goginio.

Roedd yn rhaid iddi gymryd rhan mewn 30 o heriau dros 10 pennod er mwyn cipio'r brif wobr.

Llun: Georgie Grasso

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.