Y Fedal Ddrama: Dramodydd 'dal yn siomedig' gyda'r Eisteddfod cyn cyfarfod i drafod 'cynrychiolaeth'
Y Fedal Ddrama: Dramodydd 'dal yn siomedig' gyda'r Eisteddfod cyn cyfarfod i drafod 'cynrychiolaeth'
Ar drothwy cyfarfod i drafod 'Cynrychiolaeth yn y Theatr' mae un o'r awduron geisiodd am Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cyhuddo'r Brifwyl o ddiffyg parch.
Bron i bedwar mis ers atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, mae Wyn Bowen Harries yn dweud nad yw e eto wedi cael eglurhad.
"Dwi dal yn siomedig fod yr holl beth wedi digwydd yn y ffordd y gwnaeth o – dileu y gystadleuaeth yn gyfan gwbl,” meddai.
“A ‘da ni dal ddim wedi clywed unrhywbeth swyddogol gan yr Eisteddfod... Dwi’n meddwl fod o’n difrïo’r gystadleuaeth ddrama yn ofnadwy bod nhw wedi jyst dileu’r holl beth."
Yn dilyn beirniadaeth o'r hyn ddigwyddodd ym Mhontypridd fe ddywedodd yr Eisteddfod y bydden nhw'n cynnal trafodaeth yn yr hydref.
Nos fercher fe fydd Dr Gareth Llyr Evans, cadeirydd panel canolog theatr yr Eisteddfod, yn arwain sesiwn ‘Cynrychioli Cynrychiolaeth’ a fydd, meddai'r Eisteddfod yn "drafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr".
Yn ôl Wyn Bowen Harries, mae angen i'r Eisteddfod fod yn agored ynglŷn â beth ddigwyddodd ym mis Awst.
"Dwi’n meddwl bod nhw wedi bod tamad bach yn amharchus gyda'r cystadleuwyr,” meddai.
“‘Sa hyn wedi digwydd mewn unrhyw gystadleuaeth arall – ddedwch chi y Goron neu’r Gadair byddai ‘na le ‘na felly dwi yn meddwl... y dyle nhw fod yn parchu cystadleuaeth drama lawer iawn mwy."
‘Llawdrwm’
Mae'r Eisteddfod wedi mynnu'n gyson eu bod nhw angen gwarchod y cystadleuwyr a'r beirniaid.
Mae cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn derbyn hynny.
"Mae’n anffodus bo ni fel cymuned artistig wrth gwrs yn delio efo’r hyn sydd wedi digwydd... yn y tywyllwch ond hefyd yn gallu gweld o bosibl bod angen bod yn warchodol o bobl sydd wedi bod ynghlwm â’r broses, ynghanol y ffrae fel petai."
Er hynny mae e'n mynnu fod angen i theatr allu gwthio ffiniau.
"Mae’n bwysig bo ni’n creu awyrgylch lle mae artistiaid yn gallu ffynnu a mentro a gwthio ffiniau ag maen rhaid i ni ofalu bo' ni ddim yn dod lawr yn rhy llawdrwm ar artistiaid pan ‘da ni’n teimlo eu bod nhw wedi croesi ryw ffin neu wedi tramgwyddo mewn ryw ffordd,” meddai.
“Mae hynny’n arwain at ryw fath o ddiwylliant canslo... achos mae hwnnw’n sefyllfa beryglus dwi’n meddwl ac wedyn yn mynd i greu ofn mewn artistiaid ac yn mygu artistiaid yn y pen draw."
Edrych ymlaen
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai sesiwn drafod ar gynrychiolaeth yn y theatr fyddai hyn yn y gobaith o wneud i bobl deimlo'n fwy hyderus wrth fynd ati i greu yn y dyfodol.
“Edrych ymlaen at y dyfodol yn hytrach nag edrych yn ôl yw bwriad y sesiwn,” medden nhw.
“Nid yw’n drafodaeth ar gystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni, ond yn hytrach, mae’n gyfle i gydio’n rhai o’r pynciau a godwyd dros y misoedd diwethaf a’u trafod ymhellach.
“Mae angen symud y sgwrs yn ei blaen, ac wrth wneud hynny, mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i warchod pawb sy’n ymwneud â’n cystadlaethau, gan gynnwys y cystadleuwyr a’r beirniaid.
“Mae hefyd yn bwysig nodi eto fod y beirniaid yn cytuno â phenderfyniad y Bwrdd ar y mater.
“Rydyn ni’n ymwybodol nad yw pawb yn cytuno â hyn oll, ond mae ein cyfrifoldeb ni at yr unigolion hyn yn hollbwysig i ni fel sefydliad.”
Mae'r Eisteddfod wedi dweud nad yw'r wasg yn cael mynd i'r cyfarfod am mai cyfarfod i'r sector ydyw.