Newyddion S4C

Dynes o Ben Llŷn yn darganfod cyfrinach deuluol ar ôl 75 mlynedd

26/11/2024
Ann Hughes

Mae dynes 76 oed o Ben Llŷn wedi darganfod cyfrinach deuluol a gafodd ei chelu oddi wrthi drwy gydol ei bywyd.

Bydd pennod gyntaf cyfres newydd Gwesty Aduniad ar S4C yn dilyn hanes Ann Hughes wrth iddi ddarganfod mai milwr Eidalaidd oedd ei thad biolegol.

Ei gŵr ddatgelodd hynny wrthi tra roedd ar ei wely angau.    

Nôl yn 1966, ar ddiwrnod eu priodas, roedd mam Ann wedi rhannu’r gyfrinach gyda’i mab-yng-nghyfraith.

Yn ôl Ann, roedd ei mam wedi "siarsio pawb oedd yn gwybod i beidio â deud wrtha i rhag ofn i mi dorri "nghalon". 

Ond daeth y gwir i’r amlwg bum mlynedd yn ôl, pan ddatgelodd ei gŵr, y gyfrinach roedd wedi’i chadw am dros hanner canrif. 

Roedd cofnodion hanesyddol yn cadarnhau mai Salvatore Conti, gŵr o Sisili a fu’n garcharor rhyfel yng Nghymru, oedd ei thad.

Roedd Salvatore Conti wedi bod yn byw yn Chwilog ger Pwllheli am gyfnod, yn ôl y cofnodion.

Ond roedd cofnodion pellach yn nodi iddo deithio o Southampton i Ganada yn 1954 chwe blynedd wedi i Ann gael ei geni ac iddo briodi a chael dwy ferch.

"Nes i ‘rioed feddwl se’ fo’n digwydd – bod gen i ddwy chwaer fach," meddai Ann.

'Chwilio am y gwir'

Mae Gwesty Aduniad yn dod â phobl sydd wedi colli cysylltiad – neu sydd eisiau cyfarfod am y tro cyntaf – at ei gilydd.  

Yn y bennod hon o'r gyfres newydd, mae Ann yn cyfarfod â pherthynas i’w thad gwaed am y tro cyntaf erioed. 

Roedd Ann yn credu erioed mai’r dyn oedd wedi ei magu oedd ei thad gwaed, hyd nes i’w gŵr ddatgelu'r gyfrinach.

Cadarnhaodd prawf DNA bod Ann yn hanner Eidales.

Yn dilyn hynny fe gysylltodd Ann â'i chefnder cyntaf Al Cappello, sy’n byw yn Buffalo yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r rhaglen yn dangos y foment i'r ddau gyfarfod am y tro cyntaf. 

"Pan ddechreuodd hyn i gyd, nes i alw Lina (chwaer Ann) yn yr Eidal a dweud bod posibilrwydd bod plentyn wedi’i eni sydd o bosib yn perthyn i’w thad. Roedd yn sioc i’w system," meddai Al Capello.

"Mae hon wedi bod yn siwrne a hanner i mi wrth chwilio am y gwir, oherwydd mae teulu yn bwysig. Fi oedd rhan gyntaf y pos am wn i."

Ychwanegodd: "Fy ngobaith yw y gall Ann a fy nghyfnither Lina ffurfio perthynas agosach."

Bydd pennod gyntaf cyfres newydd o Gwesty Aduniad ar S4C nos Fercher 27 Tachwedd

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.