Newyddion S4C

Cyhuddiadau yn erbyn cyn-chwaraewr Cymru o beidio ad-dalu miloedd o bunnoedd

21/11/2024

Cyhuddiadau yn erbyn cyn-chwaraewr Cymru o beidio ad-dalu miloedd o bunnoedd

A thros 100 o gapiau dros ei gwlad roedd hi'n un o sêr amlycaf Cymru am dros ddegawd.

Yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg hefyd ac yn un fu'n rhan fawr o godi proffil gêm y merched.

"Gobeithio ni 'di ysbrydoli pobl i chwarae pêl-droed."

Ar ôl iddi ymddeol, fe sefydlodd Natasha sydd bellach wedi priodi ac yn defnyddio'r cyfenw Allen-Wyatt ei hacademi ei hun.

Ond rydan ni wedi clywed gan rai rhieni a busnesau sy'n deud eu bod nhw wedi talu Natasha Allen-Wyatt am bethau fel sesiynau hyfforddi, a noddi crysau.

Maen nhw'n dadlau fod rhai o'r gwasanaethau yna heb eu darparu.

Roedd clwb Dreigiau Dâr yn Aberdâr yn un o'r rheiny oedd wedi gofyn am sesiynau hyfforddi.

"Mae hi wedi rhoi'r cyfle i'r tîm gael ymarfer gyda hi. Maen nhw wedi talu rhwng £600 700 i gael y sesiynau hyn.

"Mae hi wedi troi lan i ddau. Yn gyntaf roedd hyn yn anhygoel. Roedd y plant mor gyffrous yn y sesiynau.

"Ni wedi gweld pa mor dalentog yw hi. Ond ar ôl tipyn o amser, roedd hi ddim wedi troi lan.

"Roedd hi ddim yn siarad gyda'r clwb unrhyw mwy pan oedd hi'n gwybod bod hi ddim yn mynd i droi lan. Mae e wir wedi gwneud fi'n drist.

"Roedd y plant mor gyffrous i weld hi a cymryd y gwybodaeth. Mae hi wedi neud pawb yn drist."

Mae'r sefyllfa wedi effeithio'r tîm cenedlaethol sy'n paratoi ar gyfer gemau ail gyfle allweddol yr Ewros.

Cafodd Natasha Allen-Wyatt ei gadael allan o'r garfan yn 2022 oherwydd dirywiad yn y berthynas rhyngddi hi a'i chyd-chwaraewyr wedi iddi fenthyg arian gan rai a methu a'u talu nhw nôl.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r chwaraewyr eu bod nhw'n siomedig tu hwnt i glywed yr honiadau ac i'r gweithredoedd effeithio nhw, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Mae chwaraewyr cafodd eu heffeithio yn cael cefnogaeth gyson gan dîm lles y gymdeithas.

Fe dalodd Adrian Thole am sesiynau un-i-un i'w ferch, Hannah.

Nid yr ergyd ariannol sy'n ei boeni fwyaf, ond yr ergyd i'w hyder.

"I'm aware that teenage girls, there's a big dropout rate. A lot of issues, bullying, body confidence, exam pressures.

"It took a lot of confidence for Hannah to have the 1-1. To not hear back from Tash, Hannah said maybe she wasn't good enough."

Dywedodd Natasha Allen-Wyatt ei bod hi'n ymddiheuro i'r rheiny gafodd eu heffeithio gan ddeud bod dim modd osgoi hyn wedi i'w char gael difrod ac un arall wedi torri.

Ychwanegodd fod dim bwriad erioed i beidio cynnal y sesiynau.

Meddai bod rhai wedi cael eu talu neu wedi cytuno ar gynllun talu ac roedd hi'n aros am ymateb gan eraill.

Ond efo rhai dal yn aros am eu harian mae 'na rieni sydd wedi cysylltu a'r Heddlu ac Action Fraud i drio osgoi plant a theuluoedd eraill rhag wynebu'r un siom.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.