Newyddion S4C

Cei Connah yn teithio i'r Drenewydd yn y Cymru Premier JD

Sgorio 22/11/2024
Chwaraewyr Cei Connah yn dathlu sgorio yn erbyn Llansawel

Mae’n benwythnos mawr yn yr uwch gynghrair wrth i’r ddau uchaf gyfarfod yn Neuadd y Parc – wedi i’r Seintiau Newydd golli ganol wythnos yn erbyn Llansawel.

Roedd gan y Seintiau gyfle i godi o fewn pwynt i’r ceffylau blaen, Pen-y-bont nos Fercher, ond fe gollodd y pencampwyr am y pedwerydd tro’n y gynghrair y tymor hwn.

Chwe rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau rheiny yn llechu yn yr hanner isaf.

Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac maePen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi pasio’r targed hwnnw, a dyw Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau.

Dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu’r chwe clwb yng nghanol y tabl, ac felly mae’r gemau rhwng Y Drenewydd a Chei Connah, a’r ornest rhwng Caernarfon a’r Barri yn rhai hollbwysig yn y ras am y Chwech Uchaf.

A bydd dau o’r tri isaf yn cyfarfod ar Gae-y-Castell wrth i’r Fflint herio Llansawel yn frwydr i osgoi’r cwymp.

Y Drenewydd (9fed) v Cei Connah (8fed) 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw.

Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid m’ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.

Callum McKenzie sydd wedi cymryd yr awennau dros dro ers i Scott Ruscoe gael ei ddiswyddo, ac yn ei unig gêm wrth y llyw hyd yma fe gollodd Y Drenewydd o 3-1 yn erbyn Aberystwyth.

Mae Cei Connah yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd, ond tra bo’r hwyliau’n isel ar Barc Latham, mae’r canlyniadau wedi gwella i Gei Connah yn ddiweddar.

Enillodd y Nomadiaid o 2-1 yn Nhrefelin ddydd Sadwrn diwethaf i selio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, ac honno oedd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers mis Awst.

Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Drenewydd heb ennill gartref yn erbyn Cei Connah ers wyth mlynedd gan golli chwe gwaith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ͏✅❌❌➖❌

Cei Connah: ͏➖✅❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.