Newyddion S4C

Cynnydd bychan ym mhrisiau tai yng Nghymru - ond rhenti'n dal i godi'n gyflym

20/11/2024
Chwilio am dy

Bu cynnydd bychan ym mhrisiau tai yng Nghymru yn ystod y deuddeg mis diwethaf - ond cynnydd llawer mwy mewn rhenti.

Mae adroddiad diweddaraf  y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos fod pris  tŷ yng Nghymru ar gyfartaledd ym mis Medi yn £209,000 - cynnydd o 0.4% o'i gymharu â deuddeg mis ynghynt.

Roedd y cynnydd yng Nghymru'n llawer is nag yn Lloegr, lle roedd y pris ar gyfartaledd yn £309,000 (cynnydd o 2.5% ar y flwyddyn). Yn yr Alban y ffigwr ar gyfartaledd oedd £198,000 (cynnydd o 5.7%).

Roedd rhent yng Nghymru ar gyfartaledd yn £766 y mis ym mis Hydref (cynnydd o 7.9% mewn blwyddyn).

Ond roedd y codiad ym mhris rhent wedi arafu ychydig o'i gymharu â'r mis blaenorol, pan oedd y cynnydd yn 8.3%.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.