Newyddion S4C

Ymgyrch i gael ymddiheuriad am waharddiad bocsiwr du o Ferthyr

20/11/2024
Cuthbert Taylor a Charlie Taylor

Mae ymgyrch ar droed i fynnu ymddiheuriad gan gorff rheoli bocsio ar ôl iddyn nhw atal bocsiwr du o Ferthyr rhag gallu cystadlu am deitl Prydeinig yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Fe gystadlodd Cuthbert Taylor yng Ngemau Olympaidd 1928 ond chafodd o ddim cyfle i wireddu ei botensial am fod yna reol mewn grym am flynyddoedd oedd yn mynnu bod yn rhaid i'r rhai oedd yn ymladd fod gyda "dau riant gwyn".

Mae The Guardian yn adrodd bod cannoedd o blant o dde Cymru wedi cysylltu gyda The British Boxing Board of Control (BBBC) yn gofyn iddyn nhw ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd i Cuthbert Taylor.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw wylio'r ddrama The Fight, cynhyrchiad gan Theatr na n'Og  sydd yn adrodd stori Taylor.

Mae The Guardian hefyd yn dweud bod y gweinidog diwylliant, Jack Sargeant AS yn cefnogi safbwynt yr ysgolion ac wedi cysylltu gyda'r BBBC  yn gofyn am ymddiheuriad ar ran Taylor hefyd.

Wrth ymateb mae'r BBBC wedi dweud wrth The Guardian bod y penderfyniad i osod gwaharddiad ar sail lliw croen rhywun yn anghywir. 

Ond maent wedi gwrthod y galwadau i ymddiheuro.

Maent yn dweud bod "dwyn i gyfri" penderfyniadau hanesyddol y corff rŵan am yr hyn y gwnaeth cyn-aelodau yn "anfoddhaol iawn".

"Ein barn ni yw y dylai Llywodraeth y DU arwain ar y penderfyniad i ymddiheuro i deulu Taylor ynghylch Cuthbert Taylor am mai nhw wnaeth osod y rheol 'lliw croen' yn y lle cyntaf." 

Llun o Cuthbert Taylor gyda'i dad Charlie Taylor (Theatr na n'Og)

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.