Zoe Ball i adael ei rôl fel cyflwynydd BBC Radio 2 Breakfast Show
Mae'r cyflwynydd Zoe Ball wedi cyhoeddi ei bod yn gadael ei rôl fel cyflwynydd BBC Radio 2 Breakfast Show ym mis Rhagfyr.
Ar ôl chwe blynedd dywedodd Ms Ball bod yr amser wedi dod iddi "gamu yn ôl o wneud y boreau cynnar" a "chanolbwyntio ar deulu".
Dywedodd y byddai'n parhau i weithio i BBC Radio 2 ac y bydd yn datgelu mwy o fanylion am hynny yn y flwyddyn newydd.
Ychwanegodd y bydd ei sioe olaf yn cael ei darlledu ychydig ddyddiau cyn y Nadolig ar ddydd Gwener 20 Rhagfyr.
Wrth gyhoeddi'r newyddion i'w gwrandawyr fore Mawrth, dywedodd: "Dw i wedi penderfynu ei bod yn bryd i mi gamu yn ôl o’r alwad larwm cynnar a dechrau pennod newydd.
"Rydyn ni wedi rhannu llawer iawn, yr amseroedd da, yr amseroedd anodd, mae llawer o chwerthin wedi bod. A dwi'n mynd i fethu chi."
Ychwanegodd: "Ond fydda i ddim yn colli’r alwad larwm 4.00, os ydw i’n gwbl onest.
"Rydych yn gwybod fy mod yn caru chi i gyd."
Scott Mills fydd yn cyflwyno ei rhaglen yn y boreau yn y dyfodol, gan symud o fod yn cyflwyno yn y prynhawn.
Llun: PA