Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd yn teithio i Lansawel am yr eildro

Sgorio 20/11/2024
Chwaraewyr Seintiau Newydd yn dathlu sgorio

Hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD, ond mae gan Llansawel a’r Seintiau Newydd ddwy gêm wrth gefn, a’r ddwy yn erbyn ei gilydd.

Bydd y cyntaf o’r rheiny yn cael ei chwarae nos Fercher yma, a’r ail yn Neuadd y Parc ar yr 22 Rhagfyr.

Dyma’r eildro i’r Seintiau wneud y daith i Lansawel y tymor hwn. Roedd yn rhaid gohirio’r gêm yn gynnar ‘nôl ym mis Hydref wedi i’r glaw trwm ddod â’r ornest i stop.

Mae’r Seintiau Newydd bedwar pwynt y tu ôl i Ben-y-bont yn y ras am y bencampwriaeth, a bydd criw Craig Harrison yn awyddus i gau’r bwlch hwnnw ar yr Hen Heol.

Llansawel sydd ar waelod y tabl, ond gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r tri isaf, byddai buddugoliaeth i’r Cochion yn eu codi allan o safleoedd y cwymp.

Aeth Llansawel ar y blaen yn erbyn y Seintiau yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y tymor diwethaf. Ond fe sgoriodd y Seintiau bum gôl yn yr hanner awr olaf i sicrhau buddugoliaeth swmpus (Llan 1-5 YSN).

Bydd Andy Dyer yn disgwyl ymateb gan ei chwaraewyr ar ôl colled siomedig yn erbyn Yr Wyddgrug o’r ail haen yng Nghwpan Cymru dros y penwythnos, ond mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd y bedwaredd rownd ar ôl curo Met Caerdydd.

Record cynghrair diweddar:

Llansawel: ❌❌❌✅❌

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.