Newyddion S4C

Carcharu dyn o Ben-y-bont am geisio llofruddio ei wraig

15/11/2024
Darren Brown

Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei garcharu am 18 mlynedd am geisio llofruddio ei wraig yn y dref ym mis Gorffennaf eleni.

Ychydig cyn 22.25 ar ​​ddydd Llun 10 Gorffennaf cafodd swyddogion yr heddlu alwad i ddweud bod dynes 34 oed wedi cael ei thrywanu.  

Aeth swyddogion arfog i gyfeiriad yn Wildmill, Pen-y-bont a chanfod y ddioddefwraig wedi'i thrywanu yn ei chefn.  

Cafodd Darren Brown, 35 oed o Wildmill, ei ddal a'i arestio yn lleoliad y digwyddiad.

Cafodd Corinne Brown ei chludo i'r ysbyty gydag anaf i'w hysgyfaint. 

Roedd hi'n briod â Mr Brown, ond roedd y ddau wedi gwahanu.

Ers yr ymosodiad mae hi wedi gwella'n llwyr o'i hanafiadau.

Yn ystod ymchwiliad yr heddlu i'r cyfeiriad lle digwyddodd yr ymosodiad, daeth yn amlwg bod Darren Brown wedi rheoli bywyd ei wraig ers cryn amser.  

Roedd cloeon ar y tu allan i bob drws yn y tŷ a thystiolaeth bod yna gamerâu cylch cyfyng mewnol. 

Cafodd un camera ei guddio o dan y bwrdd wrth ochr y gwely yn ystafell wely'r ddioddefwraig.

Roedd y camera hwn wedi recordio'r ymosodiad yn ogystal â'r canlyniadau i Mrs Brown.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Owain Morrison: “Roedd hwn yn ymosodiad parhaus gyda'r bwriad o geisio lladd Corrine Brown. 

"Roedd y recordiad sain yn dystiolaeth hollbwysig yn yr achos gan ei fod yn ategu adroddiad y dioddefwr a gallai nifer o ffeithiau allweddol yr oedd wedi sôn amdanynt yn ystod ei chyfweliad gael eu clywed ar y recordiad, gan gynnwys yr un oedd yn cael ei amau yn cicio drws yr ystafell ymolchi drwyddo ar ôl i'r ddioddefwraig geisio lloches yno."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.