Wrecsam yn gwneud cais am statws dinesig am y pedwerydd tro

Wrecsam yn gwneud cais am statws dinesig am y pedwerydd tro
Mae Cyngor Wrecsam wedi ymgeisio am statws dinesig am y pedwerydd tro.
Gyda’r tri cais blaenorol yn methu, mae’r cyngor yn gobeithio y gwnaiff “proffil uchel” y dref eu helpu y tro hyn.
Petai’n llwyddiannus, Wrecsam fyddai seithfed dinas Cymru.
Dywedodd Gwynfor Jones, aelod o grŵp busnes Wrecsam: “Dydan ni im yn credu fod proffil Wrecsam ar draws y byd erioed wedi bod mor uchel, ac fel 'da chi'n deud diolch i'r clwb pêl-droed a'r ddau seren o Hollywood am hynny.
“Ond serch hynny mae yn hanfodol bwysig ein bod ni'n adeiladu ar hynny hefyd. Ac mae sicrhau statws dinesig yn ym marn i yn gam bwysig yn hyn o beth.
“Mi fysai llwyddo yn ein barn ni yn trawsnewid dyfodol Wrecsam a'r cylch hefyd. Ac yn hwb enfawr, dwi'n credu o safbwynt economaidd a diwylliannol.”
Fe brynodd y ddau seren Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney glwb pêl-droed Wrecsam nôl yn 2020.
Mae rhaglen ddogfen Netflix ar ei ffordd hefyd, sy’n cofnodi’r hanes wrth i’r ddau actor droi at bêl-droed.
Ond er gwaethaf yr holl sylw newydd mae’r dref yn ei chael ar lwyfan rhyngwladol, nid pawb sydd o blaid y cais i newid y statws i un dinesig.
‘Wast o arian’
“Y pedwerydd tro iddyn nhw drio rŵan a dwi jyst yn meddwl bod o yn wast o arian yn llwyr," meddai’r Cynghorydd Gwenfair Jones.
“Fel mae'r ddau actor o America a Canada yn deud working class town ydi Wrecsam a dyna be fydd o byth i ni.
“Dwi'n meddwl y peth gyntaf dyle nhw neud ydi neud y dre yn lle gwell.
“Mae 'na cymaint o siopau gwag yno ar hyn o bryd yn anffodus. Ma nhw fod yn gwario'r pres ar wneud gwelliannau yn y dre gyntaf dwi'n meddwl.
Llun: Christopher Owen Jones