Newyddion S4C

Cyhuddo dynes o Wrecsam wedi i'w chi ladd dyn

14/11/2024
Ci XL Bully

Mae dynes o Wrecsam wedi’i chyhuddo o fod â chyfrifoldeb dros gi XL Bully oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus, wedi iddo ladd dyn. 

Yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau, plediodd Chanel Fong, 31 oed o Stryd Holt yn ddieuog o’r cyhuddiad. 

Cafodd ei chyhuddo o fod a chyfrifoldeb dros gi oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus yn dilyn ymosodiad yn ei chartref ar 23 Mai 2022. 

Bu farw Keven Jones o Gaer ar ôl i’r ci o’r enw Cookie ymosod arno. 

Roedd Cookie rhwng 18 mis a dwy flwydd oed adeg y digwyddiad. 

Dywedodd Michelle Mann ar ran yr amddiffyniad bod Ms Fong yn “cydnabod yn llwyr natur ddifrifol” y digwyddiad. 

Dywedodd yr erlynydd Shane Maddocks fod yr heddlu wedi cael gwybod am yr ymosodiad gan y gwasanaeth ambiwlans. 

Mae Ms Fong wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 13 Rhagfyr.

Llun Llyfrgell : Ci XL Bully

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.