Newyddion S4C

Caerdydd: Apêl yn dilyn ymosodiad honedig 'â sylwedd cyrydol' mewn bwyty

14/11/2024
Las Iguanas Bae Caerdydd

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad er mwyn dod o hyd i grŵp o ddynion oedd ynghlwm ag ymosodiad honedig yn ymwneud â “sylwedd cyrydol” ym Mae Caerdydd.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw am 20.30 nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod sylwedd cyrydol wedi cael ei daflu ym mwyty Las Iguanas ar Sgwâr Tacoma yng Nghei'r Fôr-Forwyn.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant fod dau ddyn wedi rhedeg i mewn i’r bwyty gan daflu’r sylwedd ar bedwar o ddynion arall.

Cafodd dodrefn ei daflu yn ogystal, a hynny cyn i’r grŵp o ddynion cyfan “rhedeg allan o’r bwyty.”

Mae’r heddlu bellach wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad er mwyn dod o hyd i’r grŵp o bedwar oedd yn ogystal â’r ddau ddyn a daflodd y sylwedd honedig. 

'Dim anafiadau'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Marchant: “Rydym yn cydnabod y byddai aelodau’r cyhoedd yn hynod o bryderus yn dilyn y digwyddiad hwn.”

Mae’r llu o’r gred fod y sylwedd ddim yn “niweidiol” a bod neb wedi cael ei anafu. 

“Rydym ar ddeall fod y ddau grŵp eisoes wedi cael ffrae mewn ardal arall o Gei'r Fôr-Forwyn am tua 18.15 y noson honno ac felly rydym o’r gred fod yr ymosodiad wedi’i dargedu,” ychwanegodd. 

Mae’r llu bellach yn apelio ar unrhyw un oedd yn bresennol yn Las Iguanas neu yn yr ardal gyfagos rhwng 18.15 a 20.30 all fod ag unrhyw wybodaeth a fyddai’n helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad, i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400378983.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.