Dynes o Glydach 'wedi dioddef artaith' cyn cael ei lladd gan ei chymydog
Rhybudd - Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys disgrifiadau o drais eithafol
Fe wnaeth dynes o Glydach ddioddef ymosodiad rhyw ac artaith cyn cael ei churo i farwolaeth gan ei chymydog, mae llys wedi clywed.
Roedd Brian Whitelock eisoes wedi treulio 17 mlynedd yn y carchar am lofruddio a dynladdiad, cyn iddo ymosod ar Wendy Buckney, 71, yn ei chartref gyda chyllell, coes bwrdd, a silff pren.
Fe gafodd corff gwaedlyd Ms Buckney ei ddarganfod yn ystafell fyw ei chartref ar 23 Awst 2023.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe bod Whitelock wedi cael dedfryd oes o garchar yn 2001. Ond cafodd ei ryddhau yn 2018.
Yn 2000, roedd wedi curo Nicholas Morgan i farwolaeth gyda choes bwyell, cyn rhoi’r corff ar dân. Fe wnaeth brawd Whitelock, Glen, farw yn ddiweddarach yn y tân.
Dywedodd Christopher Rees KC ar ran yr erlyniad, wrth y rheithgor fod gan Whitelock hanes o drais ac wedi bod yn gaeth i gyffuriau ers tro.
“Mae’n rhaid bod Ms Buckney wedi dioddef yn fawr wrth law’r diffynnydd cyn marwolaeth – byddwch yn clywed tystiolaeth am y nifer o anafiadau trywanu ac ergydion a achoswyd iddi,” meddai.
“Byddwch hefyd yn clywed tystiolaeth o ymosodiad rhywiol arni – mae’n amhosib, yn fforensig, ddweud a gafodd hyn ei wneud gan y diffynnydd cyn, yn ystod neu ar ôl ei ymosodiad arni.”
'Cyfaddef'
Clywodd y rheithgor fod Whitelock wedi mynd i fflat Ms Buckney wedi’i wisgo’n llawn, ond, erbyn iddo gael ei weld oriau'n ddiweddarach gan gymydog, roedd yn gwisgo dim ond ei ddillad isaf, oedd wedi’u troi y tu mewn allan, a roedd yn waed drosto.
Dywedodd Mr Rees: “Ar ôl cael ei arestio, fe gyfaddefodd y diffynnydd ei fod nid yn unig wedi ei llofruddio, ond wedi ei ‘harteithio’ gyda gwrthrychau amrywiol.”
Ychwanegodd fod Whitelock wedi newid ei stori'n llwyr yn ddiweddarach yng ngorsaf yr heddlu, ym mhresenoldeb ei gyfreithiwr
“Gwadodd mai fe oedd y person oedd yn gyfrifol am lofruddio Ms Buckney.”
Mae Whitelock, o Heol Tanycoed, Clydach wedi pledio’n euog i ddynladdiad am nad oedd yn ei iawn bwyll, ond mae'n gwadu llofruddiaeth.
Eglurodd Mr Rees mai achos y diffynnydd yw iddo ddioddef anafiadau i'w ben ar Awst 1 ac Awst 16 a 17, a dyna pam nad oedd e yn ei iawn bwyll.
Fe wnaeth seiciatrydd ymgynghorol archwilio Whitelock a daeth i’r casgliad ei fod yn sâl yn feddyliol ar adeg marwolaeth Ms Buckney.
Ond yn ddiweddarach fe gynhyrchodd ail adroddiad yn nodi nad oedd yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl a bod ei ymddygiad wedi’i achosi gan gamddefnyddio sylweddau.
Ar ddechrau'r achos, dywedodd Mr Ustus Griffiths wrth y rheithgor nad oedd gan Whitelock gynrychiolaeth gyfreithiol a'i fod yn amddiffyn ei hun.
Mae'r achos yn parhau.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.