Donald Trump yn rhoi swydd i Elon Musk
Mae Donald Trump wedi rhoi swydd i Elon Musk yn ei lywodraeth wedi iddo ennill Etholiad Arlywyddol yr UDA'r wythnos diwethaf.
Mae Mr Trump wedi dechrau llunio ei lywodraeth newydd ar ôl ennill yr etholiad yn erbyn ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd Kamala Harris.
Mae Mr Musk, sef y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd, wedi cael ei benodi yn bennaeth 'Adran Effeithlonrwydd y Llywodraeth'.
Dywedodd Mr Trump y byddai'r biliwnydd yn cyd-arwain y sefydliad gyda'r cyn-ymgeisydd Gweriniaethol Vivek Ramaswamy.
Bwriad yr adran fydd i "ddarparu cyngor ac arweiniad o'r tu allan i'r llywodraeth" er mwyn "cael effaith ar fiwrocratiaeth y llywodraeth" a thorri gwariant.
Mae Mr Trump hefyd wedi penodi'r cyflwynydd Fox News Pete Hegseth i fod yn ysgrifennydd amddiffyn, a'r cyn-ysbïwr John fel cyfarwyddwr cudd-wybodaeth ryngwladol.
Fe fydd Donald Trump yn cael ei urddo yn arlywydd yn ffurfiol ar 20 Ionawr y flwyddyn nesaf.