Newyddion S4C

'Mae angen cyllid arnom ni': Clybiau Ieuenctid yn poeni am eu dyfodol

Newyddion S4C 12/11/2024

'Mae angen cyllid arnom ni': Clybiau Ieuenctid yn poeni am eu dyfodol

Mae clybiau ieuenctid yn poeni am eu dyfodol oherwydd yr argyfwng costau byw, gydag un clwb yn y de orllewin yn pryderu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau. 

Tra bod ffigurau diweddar yn dangos fod rhieni yn ei chael hi’n anodd anfon eu plant i glybiau allgyrsiol, mae Clwb Ieuenctid Maerdyd yn Nyffryn Aman yn dweud na fydd dewis ond cau, oni bai eu bod nhw’n dod o hyd i gyllid yn y misoedd nesaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae “mynd i’r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth”.

Ers 2015 mae Clwb Ieuenctid Maerdy wedi bod yn croesawu plant yr ardal, ac erbyn hyn mae dros 250 wedi cofrestru.

“Ma’r ffaith bo nhw’n dod fan hyn yn golygu bo' 'da nhw rywun i siarad â, a rywle le ma’ nhw’n saff, yn gallu bod ei hunan heb gael eu barnu, a fi yn becso tase ni ddim yma, lle bydde nhw” meddai Heledd Owen, rheolwr y clwb.

“Os nag 'yn ni’n dod o hyd i ryw gyllid erbyn mis Chwefror fyddwn ni mewn trwbwl, fydd na bosibilrwydd wedyn fyddwn ni yn cau.

“Ma’ angen cyllid arnom ni, yn enwedig ar glybiau ieuenctid bach gwledig, achos does dim byd arall yma. Achos heb ni,  fi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i rai o'r plant, fi wir ddim.”

Image
Lea
Mae Lea, 11 oed yn dweud bod llawer o blant yn yr ardal yn mynd i'r clwb.

'Cael ein clywed'

Mae’r ganolfan yn rhan bwysig o fywydau plant a phobl ifanc yr ardal.

"Ma’ nhw fel teulu i fi, fi di bod yma ers hir a ni’n cael ein clywed yma,” meddai Aimee sy’n 13.

“Hwn yw’r unig glwb ieuenctid yn GCS (Gwaun-Cae-Gurwen) a pryd ni’n cael discos ma’ pawb yn mynd,” meddai Lea sy’n 11.

Yn ôl arolwg diweddar gan Sefydliad Bevan mae nifer o rieni yn ei chael hi’n anodd fforddio gweithgareddau allgyrsiol i’w plant.

Gydag un ymhob pump yn dweud nad oedd modd i’w plant gymryd rhan mewn clybiau chwaraeon, ac un ym mhob saith ddim yn gallu mynychu gwersi cerddoriaeth, dawnsio neu ddrama.

“Ma’ tlodi yn broblem enfawr yng Nghymru. Ma’ un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.

“Ma’r galw am wasanaethau sydd am ddim yn cynyddu, ond wrth gwrs heb arian cyhoeddus yn eu cefnogi mae’n gylch ofnadwy su’n golygu bod y cymorth ddim ar gael i’r plant a phobl ifanc sydd ei angen e fwyaf.”

Image
Steffan Evans o Sefydliad Bevan
Mae Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn dweud bod dim cymorth i blant heb aian cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth.

“Mae'r ystadegau ar gyfer tlodi plant yn dangos maint yr her yma yng Nghymru, a rhaid i'n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau plant a phobl ifanc heddiw a'r dyfodol.

"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau tymor hir.

“Mae hyn yn cynnwys ehangu mynediad i chwarae yn y gymuned, chwaraeon, gweithgareddau ieuenctid, a mynediad at y celfyddydau a diwylliant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.