Pobl ddim yn siarad Cymraeg â phobl ifanc 'oherwydd 'dan ni ddim yn wyn'
Pobl ddim yn siarad Cymraeg â phobl ifanc 'oherwydd 'dan ni ddim yn wyn'
Enw fi yw Indigo Young, dw i'n 18 ac yn dod o Sir Gaerfyrddin.
Dydy lot o bobl ddim yn meddwl bod ni'n gallu siarad Cymraeg oherwydd 'dan ni ddim yn wyn.
Mae Mam yn trio siarad Cymraeg mewn siopao ond dyw pobl ddim yn siarad Cymraeg i hi.
Dydy profiad Indigo ddim yn anghyffredin. Mae'r bobl ifanc yma sy'n byw hyd a lled gorllewin Cymru wedi ffeindio rhywle i godi eu llais gyda grŵp ieuenctid, We Move.
O syrffio i grefftio, mae pob math o weithgareddau ar gael ac yn le i daflu goleuni ar eu profiadau.
Enw fi yw Marley Jones, dw i'n 16 ac yn dod o Sir Gaerfyrddin.
Pan wnes i dyfu lan, oedd dim llawer o ffrindiau gyda fi oedd gyda'r un cefndir a fi.
Pan wnes i ymuno gyda We Move a Llwy Gariad roedd yn neis gweld gwahanol gefndiroedd plant eraill a rhannu hwnna gyda'n gilydd.
Bydd plant eraill ddim yn deall. Bydd yn neis cael advice gan blant eraill sydd wedi wynebu mwy o broblemau fel hiliaeth yn eu bywydau.
Mae'r grŵp wedi'i ariannu gan Blant Mewn Angen.
I'r cydlynydd, mae angen mwy o'r fath mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru.
Pan o'n ifanc, roedd hi'n 'put up and shut up.'
Nawr, gyda phrosiect We Move, dydyn nhw ddim yn 'put up and shut up.' Maen nhw'n dweud beth maen nhw'n meddwl.
Mae'n bwysig eu bod yn cael y lle i ddweud rhywbeth am shwt mae bywyd, ysgol, a byw yn y wlad yma heb lot o diversity.
Fel rhan o ddathliadau Plant Mewn Angen bydd Indigo'n teithio i Fanceinion i gymryd rhan yn y côr gyda phlant o ar draws y DU.
Profiad newydd, medde hi, fydd yn codi ei hyder.
Codi canu a chodi arian a gobeithio hefyd, codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o grwpiau fel yr un yma yn Sir Benfro.