Newyddion S4C

Dewis rheithgor yn achos dau ddyn o Gaerffili ar gyhuddiad o smyglo pobl

11/11/2024
 Llys y Goron Caerdydd

Mae aelodau'r rheithgor wedi eu dewis mewn achos llys yn erbyn dau ddyn o Gaerffili sydd wedi eu cyhuddo o smyglo pobl. 

Mae Dilshad Shamo, 41 oed, ac Ali Khdir, 40 wedi eu cyhuddo o drefnu i symud pobl o Irac, Iran a Syria i'r DU, gan ddefnyddio cychod, lorïau, a cheir.

Fe ymddangosodd y dynion yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wrth i 14 o aelodau o'r rheithgor dyngu llw.

Mewn gwrandawiad yr wythnos diwethaf, gwadodd Shamo a Khdir bum cyhuddiad o gynllwynio i dorri rheolau mewnfudo yn yr Eidal, Romania, Croatia, a'r Almaen, wrth ddod â phobl i mewn i wlad yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae honiadau fod hynny wedi digwydd rhwng mis Medi 2022 a mis Ebrill 2023.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.