Rhoi teyrnged i Liam Payne yn ystod gwobrau MTV
Mae'r gantores Rita Ora wedi rhoi teyrnged i'r seren bop Liam Payne yn ystod gwobrau MTV Ewrop ym Manceinion.
Dywedodd Rita Ora a oedd yn cyflwyno'r seremoni nos Sul fod ganddo'r "galon fwyaf".
Bu farw Liam Payne, oedd yn gyn-aelod o'r band One Direction, ar ôl iddo ddisgyn o falconi yn Buenos Aires fis diwethaf.
Gan siarad ar y llwyfan yng Ngwobrau Ewrop MTV, dywedodd Ora ei fod yn "un o'r bobl fwyaf caredig" iddi ei hadnabod.
"Roedd yn dod a llawenydd i bob ystafell pan roedd yn cerdded i mewn ac fe adawodd gymaint o argraff ar y byd," meddai.
Yn ystod y seremoni cafodd Taylor Swift ei gwobrwyo am yr artist gorau. Dyma'r tro cyntaf i rywun gipio'r wobr honno dair gwaith.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Raye, Sabrina Carpenter, Tyla a Benson Boone.
Llun: Kevin Mazur / Getty Images